Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, mewn llythyr at Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol wedi addo y byddant yn cadw at reolau'r Maes y flwyddyn nesaf ac yn arbennig at reol rhif 33 sy'n datgan:
"Ni chaniateir i unrhyw berson /mudiad gynnal gweithgareddau (nad ydynt yn weithgareddau swyddogol yr Eisteddfod) yn cynnwys gorymdeithiau a phrotestiadau ar faes yr Eisteddfod neu unrhyw ran o'r Maes a all darfu ar weithgareddau ac awyrgylch yr Eisteddfodynghyd a mwynhad person neu bersonnau a fydd yn bresennol ynddi.Y mae hyn yn cynnwys unrhyw safle neu safleoedd a osodir iddo/iddynt.""Ni chaniateir neb ychwaith i rwystro gweithgareddau na difrodi eiddo mudiadau eraill a fo'n bresennol ar y Maes. Gwaherddir unrhyw drosedd ar y Maes."Yn dilyn protest gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn erbyn Uned y Blaid Lafur ar y Maes llynedd yr oedd yr Eisteddfod wedi derbyn cwyn yn erbyn y mudiad iaith. Dywedwyd os na fyddem yn ymrwymo i gadw at y rheolau yna ni fyddai y Gymdeithas yn cael uned ar y Maes eleni nac yn cael cynnal cyfarfodydd ym Mhabell y Cymdeithasau. Wrth gytuno i gadw'r amod fe ddywedodd y Gymdeithas:"Cyfeiriwn at y lythyr yn gofyn am ymrwymiad gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg i gadw at Reol 33 er mwyn sicrhau stondin ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Trafodwyd y llythyr ger bron Senedd y Gymdeithas yr wythnos ddiwethaf a bu trafodaeth ddwys. Fel y gwyddoch, ein hanhawster yw fod cyrff yn honni cefnogi'r Gymraeg drwy eu presenoldeb ar faes yr Eisteddfod tra bod eu holl bolisiau a gweithgarwch tu allan i'r maes yn milwrio yn erbyn yr iaith. Penderfynwyd fodd bynnag, wneud ymrwymiad diffuant fel y gofynwyd gennych, a hynny mewn modd lawn a synhwyrol.""Yr ydym yn awr yn disgwyl fod yr Eisteddfod hithau yn gweithredu ei rheol iaith - sy'n llawer mwy canolog i ddiben yr Eisteddfod - yr un mor ddiffuant. Rhag ofn eich bod, yn gwbl ddealladwy, yn brysur gyda gorchwylion eraill ar ddiwrnod cyntaf yr Eisteddfod yn yr Wyddgrug, fe wnawn ni arolwg o arddangosfeydd a gweithgareddau a chyfathrebu stondinwyr a chyflwyno unrhyw ddiffygion i chi yn eich swyddfa.""Yr ydych wedi gweithredu ar gŵyn gan y Blaid Lafur trwy wneud bygythiad i bresenoldeb Cymdeithas yr Iaith ar y Maes. Yr ydym yn cymryd, yn ddiffuant, nad yw'r Eisteddfod tan ddylanwad wleidyddol y Blaid Lafur, ac y byddwch felly yn cymryd unrhyw gwynion gennym ni yr un mor ddifrifol ac yn gweithredu yn yr un modd o ganlyniad.""Mater o drafodaeth/penderfyniad i chi fel awdurdodau'r Eisteddfod yw pa mor gaeth y dylech weithredu'r rheolau o ran synnwyr cyffredin. Yr hyn sydd ddi-ymwad, fodd bynnag, yw fod yn rhaid wrth gysondeb. Oni orfodir eraill i gadw'n gaeth at reolau'r Eisteddfod, ni ddylid ceisio gorfodi hynny ar Gymdeithas yr Iaith, yn unig am mai'r Blaid Lafur sy'n cyflwyno'r gwyn."Rhag unrhyw gamddealtwriaeth, pwysleisiaf nad yw ein hymrwymiad ar gyfer Eisteddfod yr Wyddgrug yn amodol. Mae ein hymrwymiad yn ddiffuant a diamod. Disgwyliwn y bydd yr Eisteddfod yn ymateb yn yr un modd. Fel arall, rhaid fyddai i ni ail-drafod y sefyllfa y flwyddyn nesaf."