Cymdeithas a chyrff cydraddoldeb yn lobio Aelodau'r Cynulliad

SeneddCafodd cyfarfod lobio pwysig ei gynnal yn y Cynulliad Cenedlaethol heddiw dan y teitl 'Y Gymraeg – Hawliau Cyfartal?'. Trefnwyd y cyfarfod gyda chymorth Leanne Wood AC. Yn ystod y cyfarfod, dywedodd Alun Thomas (Pennaeth Cyfathrebu y Comisiwn Anabledd) a Chris Myant (Prif Weithredwr y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol):

  • fod y Gymraeg yn un o'r cydraddoldebau yng Nghymru
  • bod yn rhaid wrth hawliau drwy ddeddfwriaeth er mwyn sicrhau cydraddoldeb i'r Gymraeg
  • a bod yn rhaid wrth Gomisiynydd annibynnol i sicrhau’r hawliau hyn

Mae hyn yn brawf fod yr ymgyrch dros Ddeddf Iaith yn ennill tir. Dywedodd catrin Dafydd:"Dros y degawd diwethaf, mae deddfwriaeth mewn nifer o wahanol feysydd wedi symud fwyfwy tuag at sefydlu lefel sylfaenol o hawliau. Bellach ceir cyfres o fesurau cydraddoldeb sy’n cyffwrdd ar feysydd megis hil, anabledd a rhywioldeb. Mae’r rhain oll yn fesurau sy’n cynnwys sefydlu lefel sylfaenol o hawliau.""Yn wir mae nifer o ddogfennau Llywodraeth y Cynulliad yn nodi y dylai’r Gymraeg hefyd gael ei drin fel pe bai’n perthyn i deulu’r cydraddoldebau. Ond, er gwaethaf hyn, mae’r Gymraeg yn gwbwl unigryw yn y maes, gan nad yw’r ddeddfwriaeth bresennol yn sefydlu unrhyw lefel sylfaenol o hawliau. Dyma brawf pellach felly o’r angen i sicrhau Deddf iaith Newydd. Dyma fydd neges ganolog Cymdeithas yr Iaith yn ein cyfarfod lobio.""Dros y misoedd diwethaf, mae’r alwad dros Ddeddf Iaith Newydd wedi codi i lefel newydd. Gwelwyd Bwrdd yr Iaith yn datgan yn gyhoeddus am y tro cyntaf bod angen adolygu a chryfhau y ddeddfwriaeth bresennol. Gwelwyd hefyd symudiadau cadarnhaol gan bob un o’r gwrthbleidiau. Ychwanegwyd at bwysigrwydd datblygiadau o’r fath gan ddatganiadau cyhoeddus unigolion megis yr Arglwydd Gwilym Prys Davies a John Elfed Jones, cadeirydd cyntaf Bwrdd yr Iaith."Bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn trafod ymhellach yr angen am Ddeddf Iaith yn eu Cyfarfod Cyffredinol yn Aberystwyth ddydd Sadwrn pan ddaw Alexia Bos Sole yno o Catalonia i drafod y sefyllfa ieithyddol yn y wlad honno a'r gwahaniaeth mae deddfu cadarn yn ei wneud i statws unrhyw iaith.Call for new laws for Welsh speakers - icnorthwales.co.ukMake Wales truly bilingual, says Plaid - newswales.co.uk