Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn croesawu ‘Coelcerth y Quangos’

logoWAG.jpgMae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn croesawu bwriad Llywodraeth Cymru i wneud i ffwrdd ag ELWA, Bwrdd Datblygu Cymru a’r Bwrdd Croeso.

Dywedodd llefarydd ar ran y Gymdeithas:“Yr ydym wedi credu erioed fod y quangos yn gyrff anemocrataidd ac anghynrychioliadol, ac mae eu dileu yn newyddion da. Er hynny,ein dymuniad yn awr yw gweld eu cyfrifoldebau (heb law am yr hyn sy’n gorfod cael ei benderfynu ar lefel genedlaethol) yn cael ei drosglwyddo i’r Awdurdodau Lleol. Bydd hyn yn fodd i rymuso a chryfhau ein cymunedau lleol.”