Sut le fydd Cymru erbyn y flwyddyn 2020? Dyna fydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ei holi i’r bobl hynny a fydd yn ymweld â maes yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghasnewydd yn ystod yr wythnos nesaf.
Trwy holi’r cwestiwn hwn, bydd y Gymdeithas yn tynnu sylw pobl at y bygythiadau hynny sydd yn wynebu’r iaith Gymraeg dros y blynyddoedd nesaf. Y ddadl sylfaenol yw fod y Gymraeg, ar hyn o bryd, yn colli tir ar raddfa gyflym iawn – er gwaethaf ‘spin’ cadarnhaol y Llywodraeth. Erbyn y flwyddyn 2020 cred Cymdeithas yr Iaith:* y bydd hi fwy neu lai yn amhosib i dderbyn gwasanaethau modern, trwy gyfrwng y Gymraeg, gan gyrff preifat.* y bydd diffyg cynllunio ar bob lefel, yn golygu bod pobl Cymru yn parhau i golli’r hawl i dderbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg – addysg gynradd, uwch a phellach.* y bydd cystadleuaeth gynyddol, a diffyg cefnogaeth a chynllunio, yn golygu bod pobl leol yn ei chael hi‘n amhosib i gael mynediad i’r farchnad dai.* y bydd llawer o gymunedau ar draws Cymru wedi colli gafael ar amrediad o sefydliadau allweddol – banciau, swyddfeydd post, tafarndai, siopau ac ysgolion.Caiff y neges yma ei grynhoi mewn cyhoeddiad newydd – 'Cymru 2020 – Colli Tir, Colli Iaith'. Bydd hwn yn cael ei lawnsio yn uned y Gymdeithas ar faes yr Eisteddfod am 2yh ar brynhawn dydd Sadwrn, Awst 31. Yn ogystal, i gydfynd â’r neges wleidyddol bydd Cymdeithas yr Iaith yn lawnsio apel codi arian – 'Cymru 2020'. Bydd yr ymgyrch hon yn galw ar Gymry i gefnogi’r ymgyrchu trwy gynnig cymorth ariannol. Bydd y Gymdeithas yn holi pobl i ystyried talu archeb banc o £20,20Yna yn ystod yr wythnos, cynhelir cyfres o ddigwyddiadau a fydd yn tynnu sylw at y modd y mae’r Gymraeg yn colli tir mewn gwahanol feysydd:Dydd Llun Awst 2: Gwyl Gyhoeddi – Coleg Cymraeg ar DaithAm 2yh, tu allan i uned Prifysgol Cymru ar faes yr Eisteddfod, bydd Cymdeithas yr Iaith yn lawnsio manylion ei thaith dros addysg prifysgol Cymraeg. Gwneir hyn trwy ddadorchuddio ‘Siarter Gymdeithasol’ (o’i chymharu â’r ‘Siarter Brenhinol’ presennol). Wrth gyhoeddi’r daith, bydd y Gymdeithas yn tynnu sylw at y ffaith mai ychydig iawn sydd wedi newid yn y brifydgol dros yr ugain mlynedd diwethaf, ac na ellir aros tan y flwyddyn 2020 cyn i unrhywbeth ddigwydd.Bydd y daith – a fydd yn cael ei gynnal rhwng dydd Llun Medi 6 a dydd Sadwrn Medi 11 – yn ymweld â nifer o wahanol ardaloedd megis Pontypridd, Abertawe, Aberystwyth a Bangor. Yn y canolfannau hy, byddwn nid yn unig yn rhoi sylw i’r bwriad o sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg, ond hefyd i’r graddau y byddai symudiad o’r fath o fudd i’n cymunedau, gan y byddai yn cynnig cyrsiau addysg pwrpasol.Dydd Mercher Awst 4: Cyfarfod Cyhoeddus – Y Gymraeg a'i HawliauAm 2yh, bydd Cymdeithas yr Iaith yn cynnal cyfarfod ym Mhabell y Cymdeithasau, er mwyn amlinellu y ddadl dros Ddeddf Iaith Newydd. Bydd Meirion Prys Jones (Prif Weithredwr newydd Bwrdd yr Iaith) yno i gynnig ei ymateb.Er gwaetha pasio dwy ddeddf iaith, dadl Cymdeithas yr Iaith yw bod y Gymraeg yn parhau i golli tir, Erbyn hyn, mae’r mwyafrif o wasanaethau pwysig, ac yn ewnedig gwasanaethau newydd, yn cael eu cynnig gan gyrff preifat, sydd allan o afael Deddf Iaith 1993. Yn absenoldeb Deddf Iaith Newydd, bydd sefyllfa o’r fath yn dwyshau erbyn y flwyddyn 2020.Dydd Gwenwer Awst 6: Cyfarfod Protest – Cyllidwch ein CymunedauAm 2yh bydd Cymdeithas yr Iaith yn cynnal cyfarfod protest er mwyn galw ar Lywodraeth y Cynulliad i weithredu ar frys er mwyn lleddfu’r argyfwng tai. Gelwir arnynt i wneud hynny, trwy ddarparu cynnydd sylweddol yn y gyllideb tai, erbyn mis Tachwedd yma.Erbyn mis Tachwedd dylai’r Llywodraeth:* ddarparu arian digonol ar gyfer y Cynllun Cymorth Prynu* sefydlu’r egwyddor o’r Hawl i RentuFel y rhybyddia Cymdeithas yr Iaith, ni fydd unrhyw gymuned naturiol Gymraeg ar ôl erbyn 2020, os ydy’r tueddiadau presennol yn parhau. Felly mae angen i’r Llywoadraeth i ymateb ar frys.