
Bydd Cyngor Torfaen yn cymryd nifer o gamau i wella ei ddarpariaeth Gymraeg gan gynnwys gwneud swyddi rheng flaen yn hanfodol Cymraeg, yn dilyn ymgyrchu gan aelodau Cymdeithas yr Iaith.
Yn sgil llythyru a chyfarfodydd gydag aelodau cell leol y mudiad iaith, penderfynodd y Cyngor y byddent yn cyflogi cyfieithydd llawn amser ychwanegol, yn gwneud swyddi gofal cwsmer yn Gymraeg hanfodol, ac yn sicrhau cyllid ar gyfer cyrsiau Cymraeg dwys i weithwyr y cyngor. Bydd y gwaith o gyflawni hyn yn dechrau y mis hwn a mae’r gell yn edrych ymlaen.
Mae’r mudiad arddeall bod y Cyngor wedi cymeradwyo y newidiadau hyn yn dilyn ymchwiliad gan bwyllgor Trosolwg a Chraffu y cyngor lle cyflwynodd Cymdeithas yr Iaith dystiolaeth.
Mae’r mudiad wedi llongyfarch gweithgarwch eu haelodau lleol am sichrau y newidiadau, dywed Swyddog Maes y De Euros ap Hywel; “Mae’n haelodau yn yr ardal wedi cyflawni gwyrthiau o dan yr amgylchiadau, maen nhw’n haeddu diolchiadau lu am eu gwaith. Mae wedi cymryd dros blwyddyn a hanner o ymgyrchu caled, ond, yn y misoedd diwethaf, rydym wedi gweld y Cyngor yn cymryd camau ymlaen. Yn aml, mae Cymry Cymraeg yr ardal yma’n cael eu diystyru, ond mae yno lawer o siaradwyr Cymraeg yma, ac ryn ni hefyd am fyw yn Gymraeg.
“Mae yno dwf yn y galw am addysg Gymraeg, gyda mwy a mwy o rieni yn anfon eu plant i ysgolion Cymraeg. Gobeithiwn weld hyn yn parhau yn y dyfodol. Byddwn yn falch o weld cefnogaeth y Cyngor i’r twf hyn yn cryfhau.
“Mae’n wael ein bod ni wedi gorfod gweithio mor galed i gael gwasanaeth Gymraeg sylfaenol, ond mae gweld y cyngor yn cymryd y camau hyn yn galonogol. Ryn ni wedi llwyddo i ddeffro’r cyngor a gwneud iddyn nhw sylweddoli na ddylid diystyru’r Gymraeg yn Ne Ddwyrain y wlad.
“Yr hyn sydd yn siomedig yw nad yw Comisiynydd y Gymraeg wedi cadw cysylltiad gyda ni fel ein bod ni’n gwybod beth sydd yn digwydd. Er iddi gynnal ymchwiliad a dod i’r canlyniad bod y cyngor wedi torri’r cynllun iaith, prin oedd y wybodaeth gaethon ni yn gyffredinol.”
Mae hefyd gan y gell ofidion na fydd y safonau iaith newydd yn sichrau bod gwasanaethau Cymraeg y Cyngor yn gwella dros y blynyddoedd i ddod.
Ychwanegodd Euros ap Hywel, “O feddwl yr holl waith sydd wedi cael ei wneud gan ein haelodau er mwyn sicrhau’r gwasanaethau hyn, rydyn ni’n pryderu bod gan Lywodraeth Cymru y syniad nad oes modd cael pob cyngor i ddarparu gwasanaethau Cymraeg cyflawn sylfaenol fel gwasanaethau y ffôn, ar y we ac wyneb yn wyneb. Mae’r rhagfarn yna yn erbyn y De Ddwyrain yn bodoli, ac yn hen feddylfryd y 60au a 70au, ac yn amddifadu ein pobl rhag cael byw yn Gymraeg.”