
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu’r newyddion bod mwyafrif llethol mynychwyr y Gynhadledd Fawr yn cytuno gyda pholisiau yn eu Maniffesto Byw.
Yn ôl arolwg a gyhaliwyd gan aelodau ifanc o’r Gymdeithas ar ddechrau’r gynhadledd, cytunodd 78% o’r mynychwyr bod angen cyhoeddi’r canllawiau cynllunio newydd - TAN 20 - yn syth. 71% o bobl oedd yn cytuno fod angen gohirio gweithredu cynlluniau datblygu lleol hyd y nes cyhoeddir y TAN 20 newydd. Dywedodd 94% o’r mynychwyr y dylai fod hawl i wasanaethau iechyd a gofal yn Gymraeg. Cafwyd ymateb gan 69 o fynychwyr y Gynhadledd i’r arolwg.
Yn ymateb i ganlyniadau’r arolwg, dywedodd Toni Schiavone, llefarydd cymunedau cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Rydyn ni’n falch iawn bod cefnogaeth gref i rai o’n cynigion polisi ymysg y bobl sydd yn y Gynhadledd. Rydyn ni wedi cael ymateb gwych i Faniffesto Byw Cymdeithas yr Iaith ar hyd a lled Cymru. Mae’r maniffesto yn cynnwys syniadau ymarferol, realistig a ellid eu gweithredu yn syth pe bai’r ewyllys gan ein Llywodraeth, ein hawdurdodau lleol a’n holl sefydliadau cenedlaethol i wneud hynny. Mae’r iaith yn wynebu argyfwng, er ein bod ni’n croesawu trafodaeth mae’n amser gweithredu. Mae canlyniadau’r arolwg heddiw yn engreifftiau clir o ddyhead pobl am weithredu. ”