Deddf Iaith Newydd: Barnwr yn Gwrthod Iawndal

Yn Llys Ynadon Caerdydd bore ‘ma gwrthododd y Barnwr oedd yn gweinyddu achos dau aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg gais Llywodraeth Cynulliad Cymru am iawndal o £2000.

Roedd Hywel Griffiths o Gaerfyrddin a Huw Lewis o Aberystwyth yn gwynebu cyhuddiad o Ddifrod Troseddol wedi iddynt baentio ‘Deddf Iaith – Dyma’r Cyfle!’ ar wal pencadlys Llywodraeth Cynulliad Cymru fel rhan o’r ymgyrch am Deddf Iaith Newydd.Yn dilyn y weithred hawliodd y Llywodraeth iawndal £2000 heb ddarparu unrhyw dystiolaeth i brofu’r ffigwr. O ganlyniad, gwrthododd y barnwr y cais hwn. Yn hytrach, gorchmynodd i’r ddau dalu dirwyon a chostau o £750 rhyngddynt.Dyma’r ail dro mewn pythefnos i achos yn erbyn aelodau o’r Gymdeithas, sydd o flaen eu gwell am eu rhan yr ymgyrch dros Ddeddf Iaith, i wynebu trafferthion. Cynt, cafodd yr achos yn erbyn 4 o aelodau eraill ei daflu allan o’r llys, gan nad oedd y Gwasanaeth Erlyn wedi llwyddo i baratoi achos mewn pryd!Dywedodd Catrin Dafydd, arweinydd yr ymgyrch dros Ddeddf Iaith: “Roedd yr achos heddiw yn un o gyfres yn erbyn aelodau Cymdeithas yr Iaith. Ers dechrau mis Hydref mae pymtheg wedi eu harestio am gymryd rhan yn ein hymgyrch weithredol dros Deddf Iaith Newydd. Bwriad y gweithredu uniongyrchol hyn yw hoelio sylw Rhodri Morgan a’i weinyddiaeth Lafur o’r angen am ddeddfwriaeth newydd i warchod hawliau’r Gymraeg.” Yn y Llys bore ‘ma yn cefnogi’r alawad am Deddf Iaith Newydd oedd Leanne Wood, AC Rhanbarthol Canol de Cymru.Stori oddi ar wefan y South Wales Echo