
5 mlynedd ers i Fesur y Gymraeg gael ei basio’n unfrydol yn y Cynulliad, nid yw’r Comisiynydd a’r Llywodraeth wedi gweithredu’r Mesur yn llawn. Mae’n fethiant sydd angen ei gywiro yn syth. Dyna pam rydyn ni wedi lansio deiseb sy’n mynnu eu bod yn cyflawni’r hyn maent wedi ei addo.
Llofnodwch ein deiseb i fynnu bod y Comisiynydd yn gosod Safonau Iaith ar gwmnïau trên, bysiau, ffôn ac ynni, ac i alw ar y Llywodraeth i ymestyn Mesur y Gymraeg i gynnwys weddill y sector breifat, megis archfarchnadoedd a banciau.
Mae cannoedd o filoedd o bobl Cymru yn cael eu hamddifadu o wasanaethau Cymraeg sylfaenol bob dydd gan nifer fawr o gyrff, megis cwmnïau ffôn, band-eang, ynni, a thrafnidiaeth. Achosir yr anghyfiawnder cwbl ddiangen hwn oherwydd nad yw Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg wedi gweithredu'n llawn y pwerau sydd ganddynt o dan Mesur y Gymraeg, a basiwyd yn unfrydol gan y Cynulliad bron i bum mlynedd yn ôl. Mae Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg felly yn rhwystro ewyllys ddemocrataidd pobl Cymru.
Byddai hyn yn sicrhau gwasanaethau Cymraeg gwell gan yr holl sectorau, preifat a gwirfoddol.
Gallwch ddarllen mwy am yr ymgyrch yma: http://cymdeithas.cymru/newyddion/lansio-deiseb-oherwydd-oedi-ar-hawliau-iaith-yn-y-sector-breifat
Wedi i chi lofnodi’r ddeiseb, rhannwch y ddolen ar Facebook a Twitter i annog eich ffrindiau i fynnu hawliau iaith cryfach hefyd!
Diolch am eich cefnogaeth.