Diffyg Cymraeg ar drenau: Gweinidogion wedi torri’r gyfraith

Mae Gweinidogion Cymru wedi torri’r gyfraith drwy beidio â sicrhau bod gwasanaethau Cymraeg ar drenau, yn ôl Comisiynydd y Gymraeg.

Mewn dyfarniad drafft, mae Comisiynydd y Gymraeg yn dod i’r casgliad bod Llywodraeth Cymru wedi torri’r gyfraith mewn naw gwahanol ffordd wrth beidio â chynnig gwasanaethau Cymraeg ar drenau a gorsafoedd. Mae’r methiannau cyfreithiol yn cynnwys: cyhoeddiadau sain uniaith Saesneg; tocynnau uniaith; gohebu yn Saesneg yn unig; a gwefan nad oes modd prynu tocynnau drwy’r Gymraeg arni. Mae’r dyfarniad gan y Comisiynydd yn dilyn cyfres o gwynion a phrotestiadau gan aelodau o Gymdeithas yr Iaith am y sefyllfa.

Sefydlwyd Trafnidiaeth Cymru yn 2016 fel is-gwmni o dan berchnogaeth lawn Llywodraeth Cymru. Trafnidiaeth Cymru yw’r sefydliad trosfwaol, ac mae elfen y rheilffyrdd, sef ‘Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru’ a reolir gan Keolis Amey, yn gweithredu Gwasanaeth Rheilffyrdd Cymru a’r Gororau. Maen nhw wedi bod yn gyfrifol am y gwasanaeth trenau yng Nghymru ers mis Hydref 2018.

Wrth ymateb i’r newyddion, meddai David Williams o Gymdeithas yr Iaith:

“Dylai fod yn destun embaras i Lywodraeth Cymru eu bod wedi methu cadw at eu Safonau cyfreithiol eu hunain. Wedi’r cwbl, os nad yw’r Llywodraeth yn mynd i gadw at y gyfraith, pwy sydd? Rydyn ni wedi cael llawer o gwynion gan aelodau a chefnogwyr am fethiannau'r gwasanaethau trenau newydd - mae’n hollol amlwg pam bod pobl mor flin am y sefyllfa. Dyw pethau sylfaenol fel cyhoeddiadau sain a thocynnau ddim ar gael yn Gymraeg. Dyw hi ddim hyd yn oed yn bosib prynu tocyn trên yn Gymraeg ar eu gwefan.

“Roedd yr holl ddiffygion yma o ran gwasanaethau Cymraeg ar ein trenau yn gwbl ragweladwy, ymhell cyn iddyn nhw gymryd rheolaeth dros y gwasanaeth. Dylen nhw fod wedi cynllunio i gadw at ofynion y gyfraith a datrys unrhyw broblemau flynyddoedd yn ôl. Rydyn ni’n pryderu’n fawr am ddiwylliant mewnol Trafnidiaeth Cymru sydd wedi caniatáu i’r sefyllfa hollol annerbyniol yma ddigwydd a pharhau. Mae’n dangos diffygion difrifol o ran paratoi am y fasnachfraint trenau newydd a rhoi blaenoriaeth deg i’r Gymraeg. Yn hynny o beth, rydyn ni’n pryderu am agwedd Trafnidiaeth Cymru at y Gymraeg gan ystyried bod bwriad i’r corff fod yn gyfrifol am ragor o wasanaethau trafnidiaeth yn y wlad.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud y sefyllfa o ran hawliau i’r Gymraeg ym maes trafnidiaeth yn waeth, ac yn llawer mwy dryslyd, drwy beidio ag ymestyn dyletswyddau iaith i gwmnïau bysiau a threnau’n uniongyrchol. Maen nhw wedi creu llanast.

“Rydyn ni wedi cwrdd â Thrafnidiaeth Cymru nifer o weithiau dros y flwyddyn ddiwethaf, a’r Gweinidog Ken Skates yn ddiweddar. Rydyn ni wedi bod yn glir ein bod ni’n disgwyl i’r methiannau sylfaenol yma gael eu datrys cyn gynted â phosibl. Nid yw’n dderbyniol i’r Llywodraeth dorri’r gyfraith na chaniatáu i’r cwmni yma amddifadu pobl o hawliau sylfaenol i weld, clywed a defnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd.”