Diffyg gweithwyr iechyd meddwl Cymraeg - ymchwil

Mae ceisiadau rhyddid gwybodaeth a wnaed gan Gymdeithas yr Iaith yn dangos bod diffyg staff sy’n medru’r Gymraeg yn y gwasanaethau iechyd meddwl, gyda phob un bwrdd iechyd yn cyflogi canran llawer is na’r boblogaeth o siaradwyr Cymraeg yn eu dalgylchoedd.  

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan oedd â’r ganran isaf, gyda 1.9% yn unig o’r staff iechyd meddwl yn medru’r Gymraeg. Ym mwrdd iechyd Hywel Dda, sy’n gwasanaethu siroedd Dyfed, dim ond 16.7% oedd yn medru’r iaith i lefel ganolradd neu’n uwch. Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr oedd â´r ganran uchaf, gyda 30% o’r staff ym maes iechyd meddwl yn medru’r Gymraeg, ffigwr sy’n agos at ganran siaradwyr yr iaith ar draws y rhanbarth.

Mae’r Gymdeithas wedi ysgrifennu at y Byrddau Iechyd yn galw am well cynllunio’r gweithlu a mwy o hyfforddiant iaith i’r staff, er mwyn cynyddu’r gwasanaethau iechyd meddwl Cymraeg.

Yn y llythyr dywed Manon Elin, cadeirydd Grŵp Hawliau’r Gymdeithas:

‘Rydyn ni fel mudiad yn aml yn derbyn cwynion gan ein haelodau am fethiant i dderbyn gwasanaeth iechyd yn Gymraeg. Mae’n hynod o bwysig bod cleifion yn medru derbyn triniaeth yn yr iaith y maent yn teimlo’n fwyaf cyfforddus yn ei siarad. Mae hyn yn arbennig o bwysig gyda materion iechyd meddwl gan fod siarad a chyfathrebu yn rhan mor ganolog o’r driniaeth ac o’r broses o wella. Mae’n ofynnol i’r claf fynegi ei deimladau yn iawn er mwyn cael y diagnosis cywir. Gall problemau cyfathrebu arwain at ddiagnosis anghywir a chamddealltwriaeth. Mae pobl yn defnyddio’r gwasanaethau iechyd meddwl pan maent ar eu mwyaf bregus, felly mae’n hanfodol bwysig eu bod yn medru cyfathrebu yn yr iaith y maent yn teimlo’n fwyaf cyfforddus yn ei siarad.

Mae’n bwysig bod y gwasanaethau ar gael yn Gymraeg, ac yn cael eu cynnig i gleifion yn rhagweithiol, yn hytrach na bod y cyfrifoldeb ar y claf i ofyn amdano. Yn aml nid ydy defnyddwyr y gwasanaethau iechyd meddwl mewn sefyllfa i fynnu eu hawliau i wasanaeth Cymraeg, a gall gwneud cais am wasanaeth Cymraeg deimlo’n amhriodol mewn sefyllfa o’r fath. Felly, mae’n hanfodol bod y gwasanaeth Cymraeg ar gael ac yn cael ei gynnig iddynt yn rhagweithiol.

Meddai Arddun Rhiannon, sy’n byw yn agos i Gaernarfon, sydd wedi ei heffeithio gan y diffyg gwasanaethau iechyd meddwl Cymraeg:

'Mae'r diffyg gwasanaethau iechyd meddwl ar gyfer siaradwyr Cymraeg yn siomedig dros ben. Mae'n gwbl hanfodol ein bod ni'n hyfforddi ac yn denu mwy o weithwyr Cymraeg i'r maes hwn oherwydd dylai pawb fod â'r opsiwn i dderbyn darpariaeth safonol yn eu hiaith gyntaf - yn enwedig gan fod cyfathrebu clir yn rhan mor annatod o wasanaeth iechyd meddwl effeithiol. Pe byddwn i wedi derbyn cymorth drwy'r Gymraeg, fe fuasai'r profiad wedi bod yn un llai rhwystredig, a'n fwy buddiol i mi yn y tymor hir. Mae siarad am eich problemau yn anodd fel mae, heb sôn am orfod ei wneud yn eich ail iaith.’









  

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr  

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda  

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys  

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf  

Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg  

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan 

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro 

Canran y staff ym maes iechyd meddwl sy’n medru’r Gymraeg  

30%  

16.7%** 

4%  

3%  

2%  

 1.9% 

 5%*

Nifer y staff ym maes iechyd meddwl sy’n medru’r Gymraeg  

533  

199**  

5  

24  

41  

 28 

 47* 

Ffynhonnell: Byrddau Iechyd Lleol

* “Cymraeg Sgyrsiol Da i Gymraeg Rhugl”

** Lefel Canolradd, Uwch a Hyfedredd