Diffyg Sylwebaeth Gymraeg Sky: Galw am roi hawliau pel-droed i S4C

Yn dilyn yr ohebiaeth rhwng Alun Cairns AS a Sky, dywedodd David Wyn Williams, Is-Gadeirydd Grŵp Dyfodol Digidol Cymdeithas yr Iaith:
"Mae penderfyniad Sky Sports i benderfynu peidio â chynnig sylwebaeth Gymraeg ar gemau timau cenedlaethol Cymru yn gwbl annerbyniol. Mae Aelodau Seneddol o'r pedair plaid wedi cefnogi Cynnig Dydd Cynnar sy'n galw ar UEFA i sicrhau bod sylwebaeth Cymraeg ar gael - nawr mae angen gweithredu. Yn hytrach na derbyn esgusodion Sky, dylai'r Llywodraeth roi rhagor o bwysau ar Sky ac UEFA i ddad-wneud y toriad diangen yma - mae gan bobl Cymru'r hawl i wylio ac i wrando ar gemau cenedlaethol yn Gymraeg a dwi'n hollol hyderus taw dyna ddymuniad Cymdeithas Bêl-droed Cymru hefyd. Os nad yw Sky yn fodlon gwneud hynny, bydd angen sicrhau mai S4C ac nid Sky sy'n cael yr hawl i ddarlledu gemau tîm cenedlaethol Cymru. Mae'r newyddion yma'n cryfhau ein hachos dros dreth newydd ar gwmnïau fel BSkyB er mwyn ariannu darlledu Cymraeg."