Digwyddiadau Cymdeithas yr Iaith yn 'Steddfod yr Urdd

Rhwng lansio sianel newydd, ymweliad gan 'Jeremy Hunt' a sawl digwyddiad arall bydd yn wythnos brysur iawn ym mhabell y Gymdeithas yr Iaith ar faes Eisteddfod yr Urdd tn Abertawe eleni, ac rydym yn eich gwahodd chi i fod yn rhan o'n holl weithgareddau dros yr wythnos:Dydd Llun 30ain Mai / 1pm / Pabell Cymdeithas yr IaithLansio Sianel '62 gydag Angharad MairBydd gan Gymdeithas yr Iaith ei sianel deledu ei hun ar gyfer wythnos yr Eisteddfod. Sianel '62 fydd sianel annibynnol pobl Cymru a bydd cyfle i unrhyw un gyfrannu a gwylio drwy'r wythnos ar ein stondin, gan ddechrau yn y lansiad yng nghwmni Angharad Mair.Dydd Mawrth 31ain Mai / 1pm / Pabell Cymdeithas yr IaithProtest Rhaid i Cyw Fyw!Mae dyfodol Cyw ac S4C yn nwylo Jeremy Hunt ond beth fydd tynged ein hoff gymeriad a'r sianel Gymraeg? Dewch i helpu achub Cyw a rhwystro cynlluniau Jeremy Hunt a'r llywodraeth!Siaradwyr: Roger Williams, Undeb yr ysgrifenwyr; Bethan Jenkins AC; Bethan Williams a 'Jeremy Hunt'.protest-rhaid-i-cyw-fyw.jpgDydd Mercher 1af o Fehefin / 1pm / Pabell Cymdeithas yr IaithY chwyldro electronig gyda JJ SneedBydd yr artist electronig JJ Sneed yn chwarae set byw a bydd llwyfan drwy'r dydd i unrhyw ymuno â'r chwyldro mewn cân. Dewch i glywed a chyfrannu.Dydd Iau 2il o Fehefin / 1pm / Pabell Cymdeithas yr IaithDysgwyr: dweud eich dweud am S4C!Mae gwylio teledu yn y Gymraeg yn rhan bwysig i lawer wrth ddysgu'r Gymraeg. Dewch i uned y Gymdeithas i siarad gyda dysgwyr eraill, i ddweud wrthym beth mae S4C yn ei olygu i chi, i weld sut allwch chi fod yn rhan o'r ymgyrch ac i godi llais dysgwyr yn erbyn y toriadau i S4C.Dydd Gwener 3ydd o Fehefin / 1pm / Pabell Cymdeithas yr IaithRhy ifanc i gyfrannu?Sut gall pobl ifanc herio'r drefn, gwneud gwahaniaeth a bod yn rhan o'r chwyldro? Dewch i wneud baneri a stensils, i ddysgu mwy am eich rhan chi yn ein hymgyrch a chael eich arfogi i godi llais!Cofiwch os oes amser gennych i gynorthwyo ar ein stondin am rai oriau neu ddiwrnod cyfan byddem yn falch i glywed gennych - cysylltwch â fi drwy ateb i'r neges hon neu ebostio bethan@cymdeithas.org