Bydd digwyddiadau go ryfedd yn Neuadd y Sir, Caerfyrddin heddiw. Am 10am bydd Cymdeithas yr Iaith yn cynnal Arwerthiant Cyhoeddus o asedau nifer o swyddogion ac aelodau cabinet y Cyngor Sir - a hynny heb eu caniatad.
Yn rhyfeddach fyth, bydd cyfarfod o'r Cyngor Llawn tu fewn yn terfynoli cyllideb ar gyfer Ysgolion Ardal mawr newydd i gymryd lle ysgolion pentref dros y blynyddoedd nesaf - a hynny heb ofyn caniatad y cymunedau na dechrau prosesau ymgynghori lleol. Esbonia trefnydd lleol Cymdeithas yr Iaith, Angharad Clwyd:"Dyw'r Cyngor ddim hyd yn oed wedi penderfynu eto ar ddyddiadau ar gyfer prosesau ymgynghorol dadleuol ar ddyfodol yr Ysgolion Pentref. Ac eto mae'r swyddogion a'r Bwrdd Gweithredol yn gofyn i gynghorwyr gymeradwyo cyllidebau am Ysgolion Ardal newydd i gymryd eu lle!!!! Mae hyn yn gwneud ffars o ymgynghori yn y pen draw, ac yn datguddio dirmyg y Cyngor tuag at y cymunedau lleol. Dyma brofi'r pwynt a wnaed gan y Gymdeithas mai'r unig ffordd ddemocrataidd ymlaen oedd cyfnod o ymgynghori ledled y sir ar yr holl strategaeth.""Mae'r Cyngor yn rhagfarnu'r holl brosesau ymgynghori trwy gymeradwyo ymlaen llaw gyllideb ar gyfer Ysgolion Ardal. Mewn gwirionedd, maent yn gwerthu'r Ysgolion Pentref - fel rhan-daliad am adeiladau newydd ysgolion canolog - heb ofyn am ganiatad y llywodraethwyr,rhieni a staff. Fel symbol o hyn, yr ydym yn arwerthu - hefyd heb ofyn caniatad - rai o brif asedau swyddogion ac aelodau cabinet y Cyngor. Fe aiff pob elw at yr ymgyrch dros yr Ysgolion Pentref."Ymhlith yr asedau a arwerthir ar risiau Neuadd y Sir am 10am yfory (Mawrth 28/2), y mae:* Ty sylweddol y Prif Weithredwr Mark James yn Nhref Caerfyrddin* Car teuluol Arweinydd y Cyngor, Meryl Gravell* Cinio gyda Mary Thomas (Aelod Cabinet gyda chyfrifoldeb dros addysg)