Dim DotCymru - ymgyrchwyr yn pryderu am yr effaith ieithyddol

url.jpegNi fydd gan Gymru ei henw fel parth ar y we oherwydd penderfyniad Llywodraeth Cymru yn ôl mudiad iaith sydd wedi erfyn ar Weinidogion i newid eu meddwl heddiw.Mewn apêl at y Gweinidog gyda chyfrifoldeb dros y Gymraeg, Leighton Andrews, mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn datgan pryder am effaith ieithyddol methu â sicrhau'r parth lefel-uchaf ".cymru" , fel '.com' neu '.uk' ar y we.Mae Llywodraeth Cymru wedi dechrau proses dendro i ennill ei chefnogaeth swyddogol i gais am enw i Gymru ar y we. Ac er bod dogfen tendro Llywodraeth Cymru yn annog ceisiadau am enwau yn y ddwy iaith, nid oes sicrhad y llwyddiff cwmni gyda'r ddau gais o flaen y corff rhyngwladol ICANN. ICANN fydd yn penderfynu ar unrhyw gais am enw parth a gefnogir gan Lywodraeth Cymru; gyda'r gystadleuaeth ryngwladol yn dechrau o Ionawr 12fed.Mewn pôl diweddar, ffafriodd mwyafrif yr enw ".cymru" yn hytrach na ".wales". Fodd bynnag, mae'r Prif Weinidog wedi awgrymu ei fod yn cefnogi enw Saesneg yn unig. Dywedodd Adam Jones, llefarydd digidol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"... gwir hanfod sicrhau parth i Gymru oedd creu ardal i gymuned ieithyddol y Gymraeg, gweler ".cat" o Gatalwnia fel enghraifft berffaith. Trwy ofyn am enw .wales byddai holl bwynt cael y parth yn cael ei golli. Fel mudiad rydym wedi ymgyrchu'n frwd dros sicrhau parth i Gymru ynghyd â mudiadau eraill... Mae felly yn peri cryn ofid i ni bod y llywodraeth wedi gwneud penderfyniad heb ymgynghori na thrafod gyda phobol Cymru."Ychwanegodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Yn amlwg, mae presenoldeb y Gymraeg ar y we yn bwysig iawn, mae rhaid i ni sicrhau nad ydynt yn colli'r cyfle hwn i wneud ein hiaith unigryw yn un weledol yn rhyngwladol. Rydym wedi gweld agwedd negyddol tuag at yr iaith mewn gohebiaeth ddiweddar gan weision sifil yr Adran Busnes [Llywodraeth Cymru]. Ar y llaw arall, mae Leighton Andrews wedi dangos cryn gefnogaeth i ddatblygu'r iaith ar-lein. Rydyn ni'n gobeithio y bydd e'n fodlon camu mewn i achub y dydd a sicrhau bod "dot cymru" yn digwydd. Mae'n fater pwysig i statws yr iaith Gymraeg yn genedlaethol a'i delwedd ar draws y byd."