Côd Ysgolion Gwledig: Dim pwynt i bolisi newydd os na fydd yn cael ei weithredu

Wrth annerch protestwyr dros ysgolion gwledig Cymraeg wrth fynedfa pencadlys Cyngor Ynys Môn yr wythnos hon, datgelodd Ffred Ffransis (ar ran Grŵp Ymgyrch Addysg Cymdeithas yr Iaith) fod arweinydd Cyngor Ynys Môn wedi cytuno i gyfarfod â dirprwyaeth o'r Gymdeithas i drafod strategaeth y Cyngor ar gyfer ysgolion gwledig. Cynhaliwyd y brotest tra bod y senedd yng Nghaerdydd yn cynnal dadl ar ddeiseb sy'n galw am sicrhau fod polisi newydd y Llywodraeth o ragdyb o blaid ysgolion gwledig yn cael ei weithredu trwy Gymru. Wrth gyhoeddi hyn, dywedodd Mr Ffransis:

"Mae hwn yn ddatblygiad arwyddocaol, ac fe gynhelir y cyfarfod ar y 4ydd o Ragfyr, wythnos cyn i Bwyllgor Gwaith Cyngor Ynys Môn benderfynu a ydynt am fwrw ymlaen gyda'u cynllun i gau Ysgol Bodffordd. Yr ydym yn ddiolchgar i'r Cynghorydd Llinos Medi Huws am y cyfle, ac yn ddiolchgar i rieni Ysgol Bodffordd am drefnu'r ddeiseb ac am osod esiampl i gymunedau gwledig Cymraeg ledled y wlad."

Wrth apelio’n uniongyrchol at Kirsty Williams, dywedodd Ffred Ffransis:

"Mae'r Ysgrifennydd Addysg, a'i rhagflaenydd, wedi datgan yn y Cynulliad y bydd dal gan rieni yr hawl i gwyno wrthi os na bydd Awdurdod Lleol yn cadw at ofynion y cod. Ond mewn 3 o atebion e-bost at y Gymdeithas, mae hi wedi methu dweud sut a phryd yn union yn y broses y gall rhieni wneud cwyn o'r fath. Ond unwaith eto, wnaeth Kirsty Williams ddim ateb cwestiwn am sut y bydd yn sicrhau y bydd Awdurdodau Lleol yn dilyn y Cod Trefniadaeth Ysgolion newydd . O fewn wythnos mae Cyngor Ynys Mon wedi cyhoeddi adroddiad ar ysgolion Amlwch a phob opsiwn yn golygu cau rhai ysgolion, ac felly wedi torri’r cod newydd yn syth. Yn ymarferol, rhagdyb yn erbyn ysgolion gwledig, nid o’u plaid, sydd, yn debyg i'r sefyllfa yn Nyffryn Aeron Ceredigion. Beth yw pwynt y Cod os bydd Awdurdodau Lleol yn ei anwybyddu?"

Cyfeiriodd at y sefyllfa yn Ynys Môn gan ddweud:  

"Os bydd Cyngor Ynys Môn yn dal ymlaen gyda'r Hysbysiad Statudol i gau Ysgol Bodffordd, ni bydd unrhyw ysgol wledig yng Nghymru'n ddiogel a diystyr fydd côd newydd y Llywodraeth. Does dim capasiti gwag yn Ysgol Bodffordd, mae'r ganolfan gymunedol yn rhan o'r adeilad, daw 89% o'r disgyblion o aelwydydd Cymraeg, ac mae'r Ysgrifennydd Addysg wedi dweud wrth y Cyngor y gellir defnyddio cyllid o Gronfa Ysgolion y 21ain Ganrif i uwchraddio ysgolion presennol, nid ar gyfer adeiladau newydd yn unig. Mae'r Cyngor wedi anwybyddu'r holl ofynion hyn yn y Côd Trefniadaeth Ysgolion presennol (2013), felly pam fod y Llywodraeth yn meddwl y bydd yn cymryd unrhyw sylw o'r Côd newydd a gyhoeddwyd y mis hwn?"

Nid yw'r Cyngor wedi gwerthuso'r opsiynau amgen heblaw am gau'r ysgol na'r effaith ar y gymuned yn unol â gofynion y côd presennol. 'Dyn nhw ddim wedi gwerthuso opsiwn ffederasiwn nac ysgol aml-safle i gynnwys Bodffordd, 'dyn nhw ddim wedi gwerthuso'r effaith ar y gymuned leol (dim ond dweud y byddai 'trafod'), a 'dyn nhw ddim wedi trafod defnydd posibl gan adrannau eraill y Cyngor o rannau o'r adeilad. Mae hyd yn oed y côd presennol hefyd yn mynnu fod y Cyngor yn 'ystyried yn ofalus gyda meddwl agored' pob gwrthwynebiad i'r Hysbysiad Statudol i gau ysgol. Eto i gyd, o fewn diwrnod i ddyddiad cau derbyn gwrthwynebiadau i'r Hysbysiad i gau Ysgol Bodffordd (29/10/18), roedd y Cyngor wedi datgan ar ei wefan (wrth gyfeirio at ad-drefnu addysg yn ardal Amlwch) y bydd yn mynd ymlaen i gau Ysgol Bodffordd; felly parhaodd yr 'ystyriaeth ofalus o'r holl wrthwynebiadau gyda meddwl agored' am lai na diwrnod!"

Yng Ngheredigion ar yr un pryd bu i rieni ysgol dan fygythiad a chefnogwyr y Gymdeithas ymgynnull i gyflwyno llythyr at sylw Catrin Miles, deilydd y portffolio addysg, a Barry Rees, y Cyfarwyddwr Corfforaethol â throsolwg dros addysg yn gofyn am sicrwydd y byddai gweithredu yn unol â'r cod newydd. Dywedodd llefarydd o’r adran addysg eu fod yr ymgynghoriad presennol i ddyfodol ysgolion yn nalgylch Aberteifi yn cymeryd y rheoliadau newydd i ystyriaeth, er nad oeddynt mewn grym ar ddechrau’r broses; ac y byddai’r rheoliadau yn cael eu gweithredu wrth fynd ymlaen.