Diolch! Neges y Cadeirydd

Am y tro cyntaf yn hanes ein gwlad, mae'r Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru. Rydym ni'n croesawu hyn a dylai fod yn destun balchder i'r genedl.Hoffwn gymryd cyfle i ddiolch i bob un sydd wedi bod yn rhan o'r ymgyrch am ddeddf iaith newydd, nid yn unig dros y misoedd prysur diwethaf ond dros y blynyddoedd diwethaf. Diolch i bob un ddaeth i rali neu brotest, i bob un a arwyddodd ddeiseb ac a lythyrodd; i'n haelodau benderfynodd weithredu'n ddi-drais; i'r rhai fu'n ein cynghori drwy'r broses a fu'n rhan o drefnu'r ymgyrch. Mae'r ffaith fod gennym fesur o gwbl yn dystiolaeth o'r hyn y gallwn ei gyflawni gyda'n gilydd.Er hynny, ac er yr ymgyrchu brwd a'r gwelliannau funud olaf, nid dyma'r mesur y buom yn ymgyrchu amdano. Mae un egwyddor allweddol ar goll o'r mesur, sef hawliau. Oherwydd nad oes egwyddor yn gyrru'r mesur, ni fydd gan bobl Cymru yr hawl gwirioneddol i weld, defnyddio a chlywed y Gymraeg yn eu bywyd bob dydd ac mae hyn yn destun siom mawr i ni a nifer o ymgyrchwyr eraill. Yn hyn o beth, nid yw'r Llywodraeth wedi cyflawni addewidion Cymru'n Un ac nid yw'n mynd i'r afael a'r angen i rymuso dinasyddion Cymru yn eu cymunedau.Serch hynny, hoffwn ddiolch i'r Aelodau Cynulliad a bleidleisiodd dros hawliau cyffredinol i'r iaith Gymraeg. Hyderaf fod eu blaengaredd hwythau wedi sicrhau y byddwn yn trafod yr angen am hawliau iaith dros y blynyddoedd nesaf. Tra bod angen dathlu fod gennym statws swyddogol i'r iaith Gymraeg am y tro cyntaf yn ein hanes, mae angen parhau i ymgyrchu'n ddi-flino i sicrhau y bydd gan bobl Cymru yr hawl i'r Gymraeg mewn mesurau yn y dyfodol.Yn ddiffuant,Bethan WilliamsCadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg