Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ysgrifennu at Brif Weithredwr cwmni Greggs gan ofyn am gyfarfod i drafod eu polisi iaith, yn dilyn honiadau am sylwadau rhagfarnllyd gan aelod o staff.
Meddai Osian Rhys, is-gadeirydd Cymdeithas yr Iaith:
"Os yw'n wir, mae'r ymddygiad honedig yma'n ofnadwy. Mae wedi digwydd, nid yn unig o ganlyniad i agwedd un aelod o staff, ond, yn rhannol, o achos y diffyg deddfwriaeth iaith sy'n rheoleiddio busnesau preifat. Rydyn ni wedi ysgrifennu heddiw at brif weithredwr y cwmni i ofyn am gyfarfod i drafod agwedd y cwmni at y Gymraeg a'u polisi iaith yn ehangach. Rydyn ni hefyd yn galw ar y Llywodraeth i gynnwys siopau'r stryd fawr dan ddyletswyddau iaith er mwyn sicrhau bod y cwmni hwn a chwmnïau eraill yn normaleiddio defnydd y Gymraeg ym mhob rhan o fywyd."