Galw am fil o ofodau Cymraeg gyda nod o ‘fwy na miliwn’ o siaradwyr

Dylai Llywodraeth nesaf Cymru osod targed i greu mil o ofodau cyfrwng Cymraeg newydd - o glybiau chwaraeon i weithleoedd cyfrwng Cymraeg - o fewn y pum mlynedd nesaf, fel rhan o raglen ‘mwy na miliwn’, meddai mudiad iaith.

Mae dogfen etholiadol Cymdeithas yr Iaith, sydd wedi ei llunio yn dilyn misoedd o ymgynghori gyda mudiadau ac arbenigwyr eraill, yn argymell naw prif newid polisi wedi etholiadau’r Senedd. Mae’r polisiau yn cynnwys:

    • Creu 1,000 o ofodau uniaith Gymraeg newydd

    • Sefydlu Menter Ddigidol Gymraeg

    • Buddsoddiad o 1% o wariant y Llywodraeth, neu £186 miliwn y flwyddyn, mewn prosiectau i hyrwyddo’r Gymraeg

    • Deddf Addysg Gymraeg i Bawb 

    • Sefydlu’r hawl i bawb, o bob oed, ddysgu Cymraeg yn rhad ac am ddim

Er mwyn ariannu rhai o’r mentrau, mae’r mudiad yn dweud y dylai aelodau’r Senedd gyflwyno tair treth newydd: treth ar AirBnB, uwch-dreth ar elw landlordiaid ac ail gartrefi; ac ardoll ar gwmnïau digidol a thelathrebu. 

Yn esbonio’r ddogfen cyn trafodaeth gydag arbenigwyr a gynhelir ar-lein heno, meddai Bethan Ruth Roberts, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:

“Yn ogystal â fynd tu hwnt i’r targed o greu miliwn o siaradwyr, bwriad agenda ‘mwy na miliwn’ yw dyfnhau’r agenda drwy ganolbwyntio ar ddefnydd o ddydd i ddydd o’r Gymraeg yn ein cymunedau, gweithleoedd a gwasanaethau cyhoeddus, ac estyn y Gymraeg i bawb, nid y rhai ffodus yn unig.

“O’r ffoadur sydd newydd ddod i’n gwlad, y gymuned hirsefydlog o Ddwyrain Ewrop, i’r glanheuwr mewn ysgol Gymraeg, nid yw’r strwythurau na pholisïau mewn lle i sicrhau bod gan bawb fynediad ystyrlon at ddysgu, mwynhau a defnyddio ein hiaith genedlaethol. Mae’r patrwm hwn yn fater o anghyfiawnder cymdeithasol mae’n rhaid ei daclo ‒ mae angen estyn dinasyddiaeth Gymraeg i bawb sy’n gweld Cymru fel cartref iddynt, nid rhai yn unig. Yn yr oes ôl-Covid, gyda methiant y gyfundrefn economaidd bresennol a thwf yr adain-dde eithafol, mae nawr yn bwysicach nag erioed i gynnwys pobl o bob cefndir drwy gyfrwng y Gymraeg — y Gymraeg fel arf dros gynwysoldeb yn erbyn gwleidyddiaeth gynyddol adweithiol. 

“Mae diffyg cynnal, cefnogi a chreu gofodau uniaith Gymraeg yn ochr arall y ceiniog hwn. Dywedir yn llawer rhy aml nad yw’r Gymraeg yn iaith gynhwysol ac felly mae Cymry Cymraeg a’r rhai nad sy’n siarad Cymraeg fel ei gilydd o dan yr argraff bod cynnal gofodau ‒ o gymunedau daearyddol, gweithleoedd neu ddigwyddiadau ‒ yn uniaith Gymraeg yn annerbyniol. Mae sicrhau gwir fynediad i bawb i’r Gymraeg yn hanfodol felly fel rhan o gynyddu’r nifer o ofodau lle mai’r Gymraeg yw’r cyfrwng iaith arferol.”

Ychwanegodd:

“Ers datganoli, mae nifer o strategaethau iaith digon glodwiw wedi ei mabwysiadu gan lywodraethau datganoledig, ond wedi mynd yn angof wedi hynny. Ar y cyfan, methiant yw hanes y polisïau a strategaethau iaith datganoledig hyn. Mae perygl ail-adroddwn hanes strategaethau iaith blaenorol o addo llawer ond methu cyflawni er gwaethaf cefnogaeth gref y cyhoedd. Ond, drwy ganolbwyntio ar yr agenda ‘mwy na miliwn - dinasyddiaeth Gymraeg i bawb’, gellir sicrhau bod y Gymraeg yn dod yn iaith bywydau beunyddiol pawb yn ein gwlad, pawb o bob cefndir nid y rhai ffodus yn unig.”  

Caiff y cynigion eu trafod mewn sgwrs ar Zoom heno (6:30yh, dydd Llun 27ain Gorffennaf) gyda Dr Elin Royles yn cadeirio, a Mabli Siriol, Joseff Gnagbo, Talulah Thomas a Dr Osian Elias yn siarad yn y digwyddiad. Bwriad Cymdeithas yr Iaith yw trafod y cynigion gyda phob un o’r pleidiau gwleidyddol dros yr wythnosau nesaf.