Daeth cefnogwyr Cymdeithas yr Iaith ynghyd yng Nghaerfyrddin heddiw i bwyso ar y llywodraeth nesaf i sicrhau “naid fawr ymlaen” i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Cafwyd negeseuon o gefnogaeth i’r cyfarfod tu allan i bencadlys y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn “Y Llwyfan” Caerfyrddin gan Meic Birtwistle (Llafur), Suzy Davies (Ceidwadwyr), Adam Price (Plaid Cymru) ac Aled Roberts (Rhyddfrydwr Democrataidd). Cynhaliwyd awr o drafodaethau ar y safle gan arweinwyr myfyrwyr o Aberystwyth, Caerdydd, UCMC ac o’r Coleg Addysg Bellach lleol gan gefnogi’r galwad ar y llywodraeth nesaf i ddatblygu swyddogaeth y Coleg Cymraeg i fod yn sefydliad addysg flaengar. Chwaraeodd band o fyfyrwyr ysgol “Adwaith” set o flaen y fynedfa hefyd.
Galwodd Miriam Williams, Is-gadeirydd y Gymdeithas am naid fawr ymlaen i’r Coleg. Dywedodd:
"Yn hytrach na cheisio amddiffyn cyllideb y Coleg fel y mae, ein galwad ni yw bod y llywodraeth nesaf yn sicrhau naid fawr ymlaen i'r Coleg trwy roi iddo gyfrifoldeb dros addysg bellach ac addysg ol-16 gyfrwng Gymraeg. Fel hyn gall y Coleg ddatblygu cyrsiau newydd perthnasol i anghenion Cymru yn hytrach na chyfieithu cyrsiau. Gall ddatblygu i fod yn sefydliad addysgol flaengar gan estyn egwyddor addysg gyfun i oedran 16+. Yn lle dilyn, gall addysg gyfrwng-Gymraeg arwain y ffordd wrth ddatblygu model newydd o addysg ol-16 ac uwch yng Nghymru. Bydd myfyrwyr ysgol a cholegau addysg bellach yn ymuno a ni a myfyrwyr prifysgolion i ddatgan fod y Coleg Cymraeg yn berthnasol iddyn nhw hefyd. Byddwn hefyd yn galw ar y llywodraeth i ddefnyddio ei dylanwad i sicrhau fod y Coleg Cymraeg yn cael cyfran teg o arian ymchwil a ddyrennir ar hyn o bryd yn ol criteria sy'n milwra'n erbyn addysg Gymraeg"
Cafwyd neges o gefnogaeth gan Adam Price a ddywedodd:
"Roedd sefydlu'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol gan Llywodraeth Cymru'n Un ar ol cenhedlaethau o ymgyrchu yn gam sylweddol ymlaen yn yr ymdrechion i greu cenedl gwirioneddol ddwyieithiog a hawl cydradd i bawb dysgu a datblygu eu potensial drwy gyfrwng y Gymraeg. Ond cam cychwynnol oedd hwn yn unig a nawr yw'r amser i adeiladu ar y seiliau a osodwyd. Bydd Llywodraeth Plaid Cymru yn ymrwymo i estyn model y Coleg Cymraeg Cenedlaethol am y tro cyntaf i faes addysg bellach a galwedigaethol. Yr ydym hefyd yn gweld rol canolog gan y Coleg mewn ymdrechion eraill i wella darpariaeth addysg mewn meysydd penodol, er enghraifft yn yn ein cynlluniau i wella ac uwchraddio hyfforddiant i athrawon cychwynnol a hefyd creu coleg gwasanaeth suful fel rhan o ysgol llywodraethiant newydd. Mae hyn yn ategu galwad y Gymdeithas ar i'r Coleg droi yn sefydliad addysg fodern a gorchwyl eang o'r alwedigaethol i'r academaidd yn cyfrannu'n helaeth at adeiladu'r genedl. Edrychwn ymlaen yn fawr at gael y cyfle i gydweithio gydag aelodau y Gymdeithas i droi'r weledigaeth gyffrous hon yn realiti i'r Gymru gyfoes."