Mae mudiad iaith wedi galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu eu cwmni ynni adnewyddol newydd yn Ynys Môn, yn dilyn penderfyniad cwmni Hitachi, perchennog Horizon, i rewi eu cynlluniau ar gyfer codi atomfa yn yr Wylfa.
Bu Cymdeithas yr Iaith yn gyson eu gwrthwynebiad i Wylfa B, ac yn benodol i'r bygythiad enfawr i'r Gymraeg yn un o'i chadarnleoedd, ond hefyd ar sail perygl o drychineb ymbelydrol, gwastraff ar y safle, dinistr amgylcheddol a niwed posibl i ddiwydiannau cynhenid yr Ynys.
Meddai Jeff Smith ar ran y Gymdeithas:
"Gwelwn gyfle euraid i hybu ynni adnewyddol gydag elfen gref o berchnogaeth gymunedol, leol. Mae hyn yn hollol groes i'r hyn a glywyd gan ormod o wleidyddion sy'n gefnogol i Wylfa B ac sydd â'u pennau'n ddwfn yn y tywod am y sefyllfa. Byddai sefydlu cwmni di-elw gyda'i bencadlys ar yr Ynys yn fodd o ddechrau creu swyddi yn y maes hollbwysig yma. Gwastraffwyd dros ddegawd yn dilyn y freuddwyd niwclear, ar draul ffyrdd eraill o gynllunio economaidd. Ddylai ddim bod lle o gwbl i niwclear yng Nghymru'r dyfodol – nid yn yr Wylfa, Trawsfynydd nac yn unrhyw le arall."
Mae'r Gymdeithas hefyd yn galw am adfer y cymal sy'n gwarchod y Gymraeg yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd rhwng Gwynedd a Mon, sef "Gwrthod cynigion a fyddai oherwydd eu maint, graddfa neu leoliad yn achosi niwed arwyddocaol i gymeriad a chydbwysedd iaith cymuned." Tynnwyd y cymal allan o'r Cynllun ar gais Horizon, sef y cwmni oedd am adeiladu Wylfa B. Ychwanegodd Jeff Smith:
"Dylid adolygu'r Cynllun yn ei gyfanrwydd, gan mai datblygiad Wylfa B yw ei gonglfaen. Mae hyn yn cynnwys y nifer afresymol o uchel o dai y bwriedir eu hadeiladu.
"Beth am greu dyfodol cyfoes a diogel i'n pobl ifanc, yn hytrach na hiraethu am dechnoleg ddrud a hen ffasiwn, y byddai ei gwaddol yn beryglus a chostus i'r cenedlaethau a ddaw?"