Galw ar Aelodau Cynulliad i holi Gweinidog yn daer am ddyfodol Ysgolion Pentref

Cadwn Ein Hysgolion.JPGBydd dadl yn Siambr y Cynulliad Ddydd Mercher ar adroddiad yr Is-bwyllgor Datblygu ar Ad-drefnu Ysgolion yng Nghefn Gwlad Cymru (pdf). Mae'r Gweinidog Addysg wedi cyhoeddi (yn Saesneg yn unig) ei hymateb ysgrifenedig i argymhellion yr Is-bwyllgor. Ym marn y Gymdeithas, mae ymateb Jane Hutt yn ymgais i osgoi rhai o'r prif argymhellion ac anogir Aelodau Cynulliad i bwyso arni'n daer yn ystod y ddadl Ddydd Mercher.

Meddai llefarydd y Gymdeithas ar Addysg, Ffred Ffransis:"Mae Jane Hutt wedi cymryd y mater hwn lawer mwy o ddifri nag a wnaeth ei rhagflaenydd, ond nid ydym yn credu fod ei holl ymatebion i argymhellion yr is-bwyllgor yn argyhoeddiadol. Mae ymateb "Derbyn mewn Egwyddor" yn aml yn gyfystyr a "Gwrthod yn ymarferol" wedi ystyried yr amodau a osodir gan y Gweinidog, a gobeithiwn y bydd Aelodau Cynulliad yn dal ar y cyfle i'w holi'n daer Ddydd Mercher.Ymhlith yr ymatebion nad sydd wrth fodd y Gymdeithas:* Mae'r Gweinidog yn "derbyn mewn egwyddor" Argymhelliad 7 i sefydlu Rhaglen Weithredu ar gyfer ymgynghori am ddyfodol ysgolion. Ond wrth ychwanegu'r geiriau "Efallai na ddylid manylu gormod trwy gyhoeddi Rhaglen Weithredu" mae'n gwrth-ddweud ei hun ac yn gwrthod yr argymhelliad yn ymarferol.* Mae Argymhellion 8 a 9 yn pwyso ar y Gweinidog i fynnu gan Awdurdodau Addysg ddulliau ymgynghori "agored" a "thryloyw" ac "Ystyrlon" ac y dylai'r Awdurdodau weithredu rhag blaen i greu trafodaeth. Dyma feirniadaeth ymhlyg amlwg ar y dulliau ymgynghori sinigaidd presennol a arferir gan nifer o Awdurdodau Lleol wrth wthio trwodd eu cynlluniau i gau ysgolion. Ond, yn ei hymateb, dywed y Gweinidog y bydd y canllawiau newydd yn "adeiladu ar arfer da" gan yr Awdurdodau gan fethu cydnabod o gwbl y gwendidau a fuont.* Mae'r Gweinidog yn "derbyn mewn egwyddor" Argymhelliad 10 y dylid comisiynu ymchwil i asesu'r effaith addysgol ar blant o'u symud o ysgol bentref at ysgol fawr. Ond ychwanega mai anodd fydd cynnal ymchwil ystyrlon yn y maes hwn. Yn ymarferol felly mae eto'n gwrthod yr argymhelliad trwy ddweud ei bod yn "derbyn mewn egwyddor".* Dywed Argymhelliad 12 y dylai Awdurdodau Lleol wneud asesiadau safonol o effaith cau ysgolion ar gymunedau. Mae'r Gweinidog yn "derbyn" hyn ond, gan nad oes gyda hi fethodoleg i alluogi Awdurdodau i wneud y fath asesiadau, fe ddywed y "gall Awdurdodau barhau i ddefnyddio eu barn eu hunain" !! Yn ymarferol eto fe wrthodir yr argymhelliad.* Er bod y Gweinidog yn "derbyn" Argymhelliad 13 y dylid asesu effaith cau ysgol ar yr iaith Gymraeg, mae'n mynd ymlaen i negyddu holl werth yr Argymhelliad trwy awgrymu nad oes raid i Awdurdod ond dangos fod dewis ysgol gyfrwng Cymraeg arall o fewn cyrraedd h.y. gorfod optio i mewn at addysg Gymraeg yn hytrach na bod yn norm.Mae'r Gymdeithas yn falch o ddatganiad y Gweinidog na ddylai Awdurdodau Lleol ddehongli ei chanllawiau fel pwysau arnynt, ond cred y Gymdeithas hefyd fod angen mwy nag awr o drafod gan wleidyddion proffesiynol ar fater mor bwysig â hyn.Bydd y Gymdeithas yn cynnal Fforwm Agored i bawb i drafod yr Adroddiad am 1.30pm Sadwrn 21ain Chwefror yn neuadd Ysgol bentre Llanfarian, dair milltir i'r de o Aberystwyth. Mae cadeirydd Is-bwyllgor Datblygu Gwledig y Cynulliad, Alun Davies A.C., wedi cytuno i gyflwyno adroddiad yr Is-bwyllgor yn y Fforwm ac y mae cynghorwyr arweiniol a gwrthbleidiau o Awdurdodau fel Ceredigion, Gwynedd a Sir Gar eisoes wedi cytuno i ddod i roi eu hymateb - gyda thrafodaeth agored yn dilyn.Dywed Ffred Ffransis, llefarydd y Gymdeithas ar Addysg:"Nid yw awr o drafodaeth gan wleidyddion proffesiynol yn ddigon ar gyfer mater o'r pwys hwn. Rydyn ni'n falch o gael mynd a'r drafodaeth yn agored at bawb a hynny mewn Ysgol Bentref ardderchog. Byddwn yn gofyn i'r Gweinidog, ei swyddogion ac Acau i ddod i wrando ar y drafodaeth."