Galw ar Barc Cenedlaethol Eryri i gymryd “cam pwysig” i leddfu’r argyfwng tai

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i gymryd camau brys er mwyn mynd i’r afael ag anghyfartaledd y farchnad dai agored yn yr ardal. Bydd cyfarfod Pwyllgor Cynllunio’r Awdurdod yn trafod cyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 ar gyfer Eryri gyfan ddydd Mercher (6 Mawrth).

Byddai cyflwyno’r polisi yn gwneud hi’n ofynnol i ennill caniatâd cynllunio cyn newid defnydd eiddo o brif gartref i ail gartref neu lety gosod tymor byr. Ar hyn o bryd, mae un ym mhob chwe thŷ yn ardal y Parc Cenedlaethol yn ail gartref neu lety gosod tymor byr.

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, byddai hyn yn gam hollbwysig i leddfu effaith yr argyfwng tai a diogelu cymunedau Cymraeg yn yr ardal. Dywedodd Gwyn Siôn Ifan, Cadeirydd Rhanbarth Gwynedd a Môn Cymdeithas yr Iaith:

“Mae’r nifer sylweddol o ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr yn Eryri - tua 17% o’r stoc tai cyfan - yn symptom o anghyfartaledd marchnad dai agored sy’n tanseilio cynaliadwyedd cymunedau ac yn bygwth dyfodol y Gymraeg fel iaith fyw. Yn ôl yr adroddiad sydd wedi cael ei baratoi ar gyfer y Pwyllgor Cynllunio, mae 65% o holl boblogaeth Eryri wedi eu prisio allan o farchnad dai eu hunain.”

“Rydym yn hyderus y bydd aelodau’r Pwyllgor Cynllunio yn cymeradwyo’r Cyfarwyddyd Erthygl 4 fel cam pwysig i fynd i’r afael â’r argyfwng tai yn Eryri, a diogelu cymunedau Cymraeg cynhenid yr ardal. Does dim dyfodol i’r cymunedau hyn heb weithredu.”

Yn pwysleisio’r argyfwng tai Cymru-gyfan, ychwanegodd Gwyn Siôn Ifan:

“Er bod awdurdodau lleol yn dechrau cymryd y camau breision sydd o fewn eu gallu i ymdrin ag agweddau gwaethaf y farchnad dai agored, gyda Llywodraeth Cymru mae’r cyfrifoldeb sylfaenol.

“Yn y pen draw, mae’n rhaid trawsnewid y system dai wrth ei wraidd drwy gyflwyno Deddf Eiddo a fyddai’n trin tai fel asedau cymdeithasol hanfodol ac yn rhoi anghenion tai cymunedau cyn elw. Gwahoddwn aelodau Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a phawb i gefnogi rali ‘Deddf Eiddo - Dim Llai’ ym Mlaenau Ffestiniog ar 4 Mai i ategu’r alwad hon i’r Llywodraeth.”