Mae Cymdeithas yr Iaith wedi anfon llythyr agored at Mark Drakeford, yr ysgrifennydd cabinet â chyfrifoldeb dros y Gymraeg, yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddadwneud y toriadau “difrifol a niweidiol” i’r sector cyhoeddi Gymraeg.
Yn ôl Cyngor Llyfrau Cymru, mae’r toriadau i’w gyllideb ar gyfer cwmniau cyhoeddi Cymraeg dros y ddeng mlynedd diwethaf gyfwerth â 40% mewn termau real, sydd wedi achosi lleihad o 34% yn nifer y llyfrau Cymraeg a gafodd eu cyhoeddi gan y prif gyhoeddwyr gyda chefnogaeth grantiau.
Mae’r mudiad wedi galw ar Lywodraeth Cymru i adfer lefel y cyllid i’r hyn yr oedd yn 2010, ac i’r cyllid gael ei warchod i’r dyfodol, gan ddweud y byddai peidio â gwneud hynny yn peryglu ymdrechion y Llywodraeth yn eu strategaeth Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr.
Yn y llythyr, ysgrifenna Joseff Gnagbo, Cadeirydd Cenedlaethol Cymdeithas yr Iaith:
“Mae effaith y toriadau yn ddirfawr ac yn ddifrifol o safbwynt peryglu cwmnïau cyhoeddi a swyddi, a rheiny yn swyddi sydd wedi eu lleoli yn aml o fewn cymunedau Cymraeg ac sydd yn gofyn am sgiliau yn y Gymraeg.
“Mae cyfraniad y sector cyhoeddi a gweisg yn gwbl hanfodol i ddyfodol yr iaith a diwylliant Cymreig, ac o ran cyfrannu at gyflawni nodau'r Llywodraeth yn eu strategaeth Cymraeg 2050 i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ac i ddyblu’r gyfran o’r boblogaeth sy’n defnyddio’r iaith bob dydd.
“Galwn arnoch i ailystyried y toriadau hyn ac i adfer lefel y cyllid ar gyfer cyhoeddwyr Cymraeg sy’n cael ei ddarparu trwy Gyngor Llyfrau Cymru i’r hyn oedd yn 2010, ac i amddiffyn y gyllideb hon yn y blynyddoedd nesaf fel rhan o weithredu ymrwymiad y Llywodraeth i sicrhau dyfodol cynaliadwy i’r iaith Gymraeg.”
Mae sawl unigolyn blaenllaw yn y maes, megis Lefi Gruffudd, pennaeth golygyddol gwasg Y Lolfa, Myrddin ap Dafydd a Llio Meirion, Cyfarwyddwyr Gwasg Carreg Gwalch ac Ashley Drake, Cadeirydd dros dro Cyhoeddi Cymru, eisoes wedi mynegi pryder dros ddyfodol y diwydiant cyhoeddi llyfrau Cymraeg.