
Mewn cyfarfod protest ar faes yr Eisteddfod heddiw, bydd Cymdeithas yr Iaith yn cwyno fod Awdurdodau Lleol Cymru yn rhy barod i wneud "gwaith budr" y llywodraeth drostynt yn lle gwneud safiad dros y cymunedau Cymraeg a gynrychiolant.
Bydd llefarydd y Gymdeithas ar addysg, Ffred Ffransis yn dweud wrth gyfarfod protest yn uned y Gymdeithas heddiw (12pm, Dydd Gwener, Mai 30): "Fel y dengys y Cyferifiad, mae dyfodol ein cymunedau gwledig Cymraeg yn y fantol, a disgwyliwn fod fod y cynghorwyr etholedig sy'n eu cynrychioli yn gwnud safiad drostynt. Ond yn rhy aml y mae swyddogion Cynghorau Cymru wedi bod yn rhy barod i weithio law yn llaw gyda swyddogion y llywodraeth i wneud eu gwaith drostynt, gan gau ysgolion pentrefol a derbyn yn ddi-gwestiwn polisiau tai anaddas, ac yn disgwyl ffafr a chyllid gan y llywodraeth.Mynnwn fod ein cynghorwyr yn sefyll yn ddi-amod dros ein cymunedau Cymraeg yn y dyfodol."
Yn gynharach yn ystod y bore, yr oedd aelodau Cymdeithas yr Iaith wedi gosod rhes o finiau sbwriel o flaen uned Cyngor Gwynwedd ar faes yr Eisteddfod, Esboniodd Ffred Ffransis: "Gan fod Cyngor Gwynedd a chynghorau eraill fel Ceredigion a Chaerfyrddin wedi bod mor barod i wneud gwaith budr eraill drostynt, yr ydym wedi symboleiddio hyn trwy osod biniau sbwriel o flaen eu hunwed gan wahodd y Cyngor i wneud gwaith Eisteddfod yr Urdd drostynt heddiw."