Gofal Iechyd Sylfaenol: angen mynd i'r afael â'r diffygion

Wrth i Lywodraeth Cymru roi ei ymateb i ‘Fy Iaith, Fy Iechyd: Ymholiad Comisiynydd y Gymraeg i’r Gymraeg mewn Gofal Sylfaenol' dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas yr Iaith:
"Mae Comisiynydd y Gymraeg yn haeddu clod am ei gwaith yn y maes yma, ac am gydnabod fod nifer o ddiffygion yn y gwasanaethau iechyd hyn – mae hynny'n cael ei ategu mewn sylwadau rydyn ni wedi eu cael gan aelodau'r cyhoedd. Mae'r Llywodraeth hefyd wedi derbyn nifer o'r argymhellion, sydd i'w groesawu, ond amser a ddengys a welwn ni'r newid sydd ei angen ar lawr gwlad. Mae gofal iechyd yn faes pwysig iawn – dyna pryd mae pobl ar eu mwyaf bregus, ac felly angen eu diogelu fwyaf. Mae'n bwysig felly bod mynd i'r afael â'r diffygion; ry'n ni'n gobeithio bydd y Safonau iaith a ddaw i rym yn fuan yn mynd i'r afael â nifer o'r broblemau hyn hefyd.”