Gosod Cerrig Milltir Ymgyrch Penybanc

Dros y penwythnos daeth dros 100 o bobl i brotest a drefnwyd ar y cyd rhwng trigolion Penybanc a Chymdeithas yr Iaith i wrthwynebu datblygiad o 289 o dai. Clywodd y dorf gan ymgyrchwyr lleol a Chymdeithas yr Iaith a bu trafod camau nesaf yr ymgyrch yn y sir. Mae gwrthwynebiad yn lleol ac ar draws y sir i'r datblygiad oherwydd yr effaith a fyddai ar y gymuned leol ac ar y Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin.

Yn y brotest dywedodd Joy Davies o Bwyllgor Gweithredu Penbanc:

"Mae pentrefi fel Penybanc, Saron a Thycroes yn ardaloedd yn parhau i fod yn ‘naturiol’ Gymraeg. Mae’r pentrefi wedi cadw ymdeimlad cryf o’u hunaniaeth hefyd, er eu bod nhw yng nghyffiniau Rhydaman. Ein cred ni yw y bydd codi 289 o dai ar un safle ym Mhenybanc yn cael effaith niweidiol iawn ar Gymreictod yr ardal ac ar gymeriad y pentref."

Meddai Sioned Elin, Cadeirydd y Gymdeithas yn yr ardal:
“Yn ddiweddar iawn bu Leighton Andrews yn rhan o fforwm yn Nhycroes, dafliad carreg o safle'r datblygiad, yn trafod canlyniadau'r Cyfrifiad. Fe wnaeth e gyhoeddi grŵp tasg arall i edrych i sefyllfa'r Gymraeg yn y sir ond eto dyma nhw'n gwneud dim byd ynghylch y datblygiad anferth hwn – er gwaethaf gwrthwynebiad lleol.
"Mae'r Cyngor hefyd wedi sefydlu grŵp ar wahân i edrych ar ffigyrau'r Cyfrifiad ond eto yn caniatáu datblygiad fel hyn, ar sail hen Gynllun Datblygu Unedol nad yw'n gyfredol. Mae angen iddyn nhw roi stop ar y datblygiad yma'n syth ac aros nes cael yr ymchwiliad cyhoeddus i'r Cynllun Datblygu Lleol nes ymlaen eleni, yn ogystal â chanllawiau cynllunio newydd Llywodraeth Cymru.
 
"Byddwn ni'n trafod eto gyda'r pwyllgor lleol sut allwn ni gydweithio i wrthwynebu'r datblygiad ac yn cynnal cyfarfod rhanbarth Caerfyrddin ar nos Lun y 29ain o Ebrill yn nhafarn y Glyndwr yng Ngaherfyrddin am 7pm. Mae croeso i bawb ymuno i drafod hyn ac ymgyrchoedd lleolal eraill."

Ychwanegodd Rhys Dafis, aelod o fand Banditos, wnaeth berfformio yn ystod y brotest:
“Rwy'n falch bod Cymdeithas yr Iaith wedi cyd-drefnu gyda Pwyllgor Gweithredu Penybanc ac yn barod i'w cefnogi wrth iddyn nhw godi llais. Mae Penybanc yn esiampl i gymunedau ar draws Cymru sydd yn wynebu datblygiadau a heriau tebyg – ar bobl fel rhain sydd angen i'r Cyngor wrando, yn lle bod datblygwyr a chynghorau ac ati yn ceisio ffeindio llefydd i roi tai heb feddwl am yr effaith ar y cymunedau lleol.”

Mwy o luniau gan Lleucu Meinir i'w gweld yma cyn bo hir - http://www.lleucu.com/2013/04/21/llunie-o-brotest-nid-yw-penybanc-ar-werth/

Stori yn y wasg:

Golwg 360 20/04/13: Penybanc – Cymdeithas yr Iaith yn gosod cerrig milltir

South Wales Evening Post 22/04/13 - Joining Protest Against Homes

Carmarthen Journal 24/04/13 - Protestors Reveal Langugae Concern