Gweinidog yn cyfaddef efallai na fydd Deddf Iaith newydd

Mae ymgyrchwyr iaith wedi croesawu datganiad gan Weinidog gerbron pwyllgor heddiw bod posibilrwydd na fydd Deddf Iaith newydd cyn yr etholiadau nesaf. Byddai hyn yn golygu y byddai rôl Comisiynydd y Gymraeg yn parhau.   

Yn siarad gerbron y pwyllgor diwylliant mewn ymateb i gwestiwn gan David Melding AC, dywedodd Gweinidog y Gymraeg Eluned Morgan: “Dyna'r bwriad [cyflwyno Bil ym mis Ebrill 2020]... ond dw i’n meddwl bod popeth lan yr awyr achos Brexit, does gyda ni ddim syniad beth sy’n mynd i ddigwydd...”. 

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi dadlau y dylai’r Llywodraeth ollwng ei chynlluniau i basio Bil y Gymraeg newydd, gan honni y byddai’n gwanhau hawliau pobl i'r iaith drwy ddiddymu Comisiynydd y Gymraeg a chymhlethu cyfundrefn y Safonau. Roedd y Bil eisoes wedi ei ohirio yn rhaglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth. 

Dywedodd Osian Rhys, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:   

“Mae’n galonogol bod y Gweinidog yn codi amheuaeth a fydd y Bil yn digwydd ai peidio. Mae model o Gomisiynydd wedi ennill ei blwyf yn rhyngwladol fel ffordd o ddiogelu ieithoedd eraill, ac yng Nghymru mewn sectorau gwahanol gyda Chomisiynydd Plant sy’n llwyddo. Dydy diddymu’r model ddim yn gwneud synnwyr.   

“Yn lle trio pasio Deddf Iaith wannach, mi fyddai'n llawer gwell i swyddogion ganolbwyntio ar waith arall, gan gynnwys gosod Safonau ar ragor o gyrff a chwmnïau. Dydyn ni ddim am weld y Llywodraeth yn gwastraffu rhagor o amser ar gynigion Papur Gwyn a fyddai, o'i weithredu, yn troi'r cloc yn ôl i gyfnod Deddf Iaith 1993 wnaeth fethu amddiffyn hawliau siaradwyr Cymraeg.  

Mae cyfundrefn y Safonau, wedi ei rheoleiddio gan y Comisiynydd, yn dechrau gwneud gwahaniaeth ar lawr gwlad, felly byddai’n well i'r Llywodraeth ddefnyddio’r holl bwerau sydd ganddyn nhw ar hyn o bryd i weithredu’r Mesur yn llawn. Mae sylwadau'r Gweinidog bod posibilrwydd na fydd y Ddeddf Iaith wannach yn digwydd yn galondid mawr i ni."  

Yn ystod y sesiwn, roedd rhaid i'r Gweinidog gael ei chywiro pan honnodd nad oedd modd estyn y Safonau i gwmnïau ynni fel SSE. O dan y Ddeddf bresennol – Mesur y Gymraeg 2011 – gallai’r Llywodraeth ymestyn hawliau i sicrhau gwasanaethau Cymraeg gan gwmnïau ynni, dŵr, ffôn, trên a bws.