Mae Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith wedi cael ei arestio am chwistrellu paent ar swyddfa Llywodraeth Cymru yng Nghaerdydd gan alw am chwe newid polisi er mwyn cryfhau’r Gymraeg mewn ymateb i ganlyniadau argyfyngus y Cyfrifiad.
Mae'r brotest yn rhan o ymgyrch ehangach y Gymdeithas sy'n rhoi pwysau ar Llywodraeth Lafur Cymru i weithredu ar frys dros y Gymraeg. Mae aelodau Cymdeithas yr Iaith yn galw ar y Llywodraeth i ymgorffori 6 phwynt sylfaenol yn ei pholisïau, megis addysg Gymraeg i bawb, tegwch ariannol i'r iaith, a threfn gynllunio newydd er budd ein cymunedau. Ysgrifennodd Robin Farrar, Cadeirydd y mudiad iaith, y geiriau “Gweithredwch” a “6 pheth” ar wal swyddfeydd y Llywodraeth ym Mharc Cathays.
Ym mis Hydref 2013, cyhoeddwyd casgliadau'r Gynhadledd Fawr – ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar sefyllfa'r iaith yn dilyn canlyniadau argyfyngus y Cyfrifiad – ymysg y prif argymhellion roedd: cynyddu'r buddsoddiad ariannol yn y Gymraeg yn gyffredinol; newidiadau radical i addysg Gymraeg ail iaith; a newidiadau i'r gyfraith gynllunio. Yn lle, ym mis Tachwedd, cyhoeddodd y Prif Weinidog y byddai'n lansio ymgyrch i annog pobl i ddefnyddio eu Cymraeg bum gwaith y dydd. Doedd dim un gair am y Gymraeg ym Mil Cynllunio drafft y Llywodraeth.
Wrth roi ei resymau dros y weithred, meddai Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Ymhell dros flwyddyn ers canlyniadau’r Cyfrifiad, mae diffyg gweithredu y Llywodraeth yn anfaddeuol. Mae ‘na argyfwng yn wynebu’r Gymraeg. Tra bod y Gymdeithas wedi galw am chwe newid polisi er mwyn newid y sefyllfa, mae Carwyn Jones yn llusgo’i draed eto fyth. Rydyn ni’n parhau i obeithio y gallai’r iaith ffynnu dros y blynyddoedd i ddod achos awydd pobl ar lawr gwlad i fyw yn Gymraeg. Gydag ewyllys gwleidyddol ac ymgyrchu cadarnhaol, gallwn ni lwyddo.”
“Bron i flwyddyn ers iddo gynnal ei Gynhadledd Fawr, dydy e dal ddim wedi gweithredu ar gasgliadau ei ymgynghoriad. Yn wir, mae’r Llywodraeth wedi gweithredu’n groes i brif argymhellion ei ymgynghoriad drwy gyhoeddi Bil Cynllunio nad yw’n sôn dim am y Gymraeg a thrwy dorri’r buddsoddiad ar gyfer ei hyrwyddo. Ers dros flwyddyn, rydym wedi llythyra, cynnal cyfarfodydd, cymryd rhan mewn cynadleddau a thrafodaethau di-ri gyda'r Llywodraeth. Nawr, trwy'r anufudd-dod dinesig yma, rydym am bwyso ar Lywodraeth Cymru i fabwysiadu’r polisïau sylfaenol hyn er mwyn i bawb allu byw yn Gymraeg.”