Gweithredu yn erbyn Llywodraeth Cymru a’u cyhuddo o “anwybyddu’r argyfwng tai”

Mae aelodau Cymdeithas yr Iaith wedi gweithredu yn erbyn swyddfeydd Llywodraeth Cymru ar draws Cymru dros nos (17 Gorffennaf) mewn ymateb i oedi wrth gyhoeddi eu Papur Gwyn hir-ddisgwyliedig ar dai, gan ddatgan mai datrys yr argyfwng tai fydd her fwyaf Prif Weinidog nesaf Cymru. 

Fis Ebrill, ymrwymodd Julie James, cyn-Ysgrifennydd Cabinet dros Dai Llywodraeth Cymru i gyhoeddi Papur Gwyn ar yr Hawl i Dai Digonol a Rhenti Teg, fyddai'n rhagflaenu deddf, cyn toriad yr haf y Senedd.

Wrth i wythnos olaf y Senedd cyn toriad yr haf ddirwyn i ben, mae Cymdeithas yr Iaith ar ddeall nad oes disgwyl cyhoeddi’r papur gwyn nes tymor yr hydref. Mae disgwyl oedi pellach yn sgil ymddiswyddiad sawl aelod blaenllaw o’r cabinet yn ogystal â’r Prif Weinidog yr wythnos hon.

Yn ystod Cwestiynau i’r Prif Weinidog ar lawr y Senedd ddydd Mawrth (16 Gorffennaf) cyhuddodd Siân Gwenllian, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, bod “anrhefn y Blaid Lafur” wedi golygu “oedi diangen” i gyhoeddi’r Papur Gwyn, gan holi a fyddai “yn gweld golau dydd bellach.” Ni chyfeiriodd Vaughan Gething at y Papur Gwyn yn ei ateb.

Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw am gyflwyno Deddf Eiddo ar frys fyddai'n sefydlu’r hawl i gartref yng nghyfraith Cymru. Yn dilyn yr oedi, mae aelodau o Gymdeithas yr Iaith wedi mynd ati i beintio a gosod sticeri ar swyddfeydd Llywodraeth Cymru yn Aberystwyth, Caerdydd, Caerfyrddin a Chyffordd Llandudno.

Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas yr Iaith:

"Mae ein gwleidyddion wedi gadael y Senedd am y tro olaf cyn toriad yr haf a does dal dim sôn am Bapur Gwyn ar dai, ac mae ansicrwydd pellach wedi sawl ymddiswyddiad yr wythnos hon. Yn anffodus mae hyn yn dilyn patrwm ehangach - fel rydym wedi’i weld gyda gohirio cynlluniau i gyflwyno Cofrestr Llety Gwyliau ac oediadau i weithredu mesurau Erthygl 4 - o anwybyddu’r argyfwng tai sy’n gwynebu pobl ar lawr gwlad ac osgoi cyfrifoldeb. 

“Mae teuluoedd a phobl ifanc ar draws Cymru yn methu talu rhent, yn methu fforddio morgais, yn byw mewn amgylchiadau bregus, ansefydlog ac yn cael eu gorfodi i adael eu cymunedau. Dyna’r argyfwng rydym yn ei wynebu yng Nghymru, ond dydy’r Llywodraeth bresennol ddim fel petai'n yn deall beth sy’n digwydd yn ein cymunedau.

“Rydyn ni'n disgwyl felly y bydd cyflwyno Deddf Eiddo, a sefydlu mewn cyfraith bod gan bawb sy’n byw yng Nghymru’r hawl i gartref, yn flaenoriaeth i'r Prif Weinidog a'r Cabinet newydd.

"Bydd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg dan gadeiryddiaeth Dr Seimon Brooks yn cyhoeddi ei adroddiad ymhen rhai wythnosau, ac rydym yn disgwyl iddo gynnig camau blaengar fel ffordd ymlaen, er enghraifft cyflwyno cynlluniau peilot i reoleiddio'r farchnad. Byddwn ni'n disgwyl i'r Llywodraeth fabwysiadu’r argymhellion hynny wrth baratoi i ddeddfu yn y maes."