Byddai rhaglen Gwneud-i-Gymru go iawn yn sicrhau'r sgiliau Cymraeg gorau posib

Mae Cymwysterau Cymru wedi creu cymhwyster TGAU newydd "Gwneud-i-Gymru" sydd y parhau i ddysgu Cymraeg ail iaith. Byddai rhaglen fyddai wedi ei gwneud i Gymru go iawn yn sicrhau'r sgiliau Cymraeg gorau posib i bawb.

Yn ôl Toni Schiavone, Is-gadeirydd grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith:

"Mae Cymwysterau Cymru yn bradychu 80% o bobl ifanc Cymru ac yn tanseilio egwyddorion y Papur Gwyn ar Addysg a'r nod o filiwn o siaradwyr erbyn 2050 trwy anwybyddu'r cyfle i sefydlu un continwwm asesu ar gyfer y Gymraeg. Mae hefyd yn groes i athroniaeth Cwricwlwm i Gymru, sydd â'r nod o beidio rhoi nenfwd ar gyrhaeddiad disgyblion.
"Enw'r cymwysterau newydd yw Gwneud-i-Gymru ond byddai rhaglen wedi eu gwneud i Gymru go iawn yn sicrhau'r sgiliau Cymraeg gorau posib i bawb. Ond dydy hyn yn ddim mwy nag ail-frandio'r cymwysterau Cymraeg presennol, ac mae'n agor y drws i ysgolion cyfrwng Saesneg i anwybyddu'r Gymraeg fel pwnc arholiad. Fe wnaeth adroddiad "Un iaith i bawb" y Dr Sioned Davies, ar sail adolygiad o Gymraeg ail iaith argymell dod â Chymraeg ail iaith i ben ddeng yn ôl, a chreu un continwwm dysgu Cymraeg. Rydyn ninnau wedi cyflwyno'r achos dros greu un cymhwyster a chyhoeddi model ar gyfer hynny. Does dim cyfiawnhad addysgol dros anwybyddu hyn oll a pharhau gyda dau gymhwyster ar gyfer y Gymraeg."