Bydd siaradwyr a dysgwyr Cymraeg yn cael eu hannog i ddathlu'r iaith Gymraeg ar-lein, gyda lansiad menter newydd pethaubychain.com ddydd Gwener hwn (3ydd Medi).Mae sefydlwyr y prosiect wedi dynodi dydd Gwener, y 3ydd o fis Medi fel diwrnod i ddathlu'r hen iaith ac i annog mwy o bobol i gymryd rhan yn y diwylliant Cymraeg digidol. Ar y wefan, maent yn gofyn i bobl wneud addewid i greu un peth bach ar-lein yn y Gymraeg - o greu fideo, i flogio neu bodlediadau neu e-farddoniaeth - ar y dydd.Fe ddywedodd Rhodri ap Dyfrig, o Aberystwyth, un o'r bobl tu ôl i'r prosiect:"Rydyn ni'n or-ddibynnol ar gyfryngau wedi eu bwydo i ni yn y Gymraeg: mae'r we yn gyfle i ni furfio ein sianeli, ein gorsafoedd a'n diwylliant digidol ni ein hunain ar ein telerau ni. Os ydyn ni am i'r Gymraeg dyfu a ffynnu yna rhaid i ni greu diwylliant ar-lein Cymraeg annibynnol hefyd. Drwy wneud un o'r pethau bychain gall pobl chwarae rhan allweddol mewn llusgo'r Gymraeg i'r byd digidol."Mae'n bwysig iawn i weld yr iaith Gymraeg ar y teledu ac ar y radio ac mae'r un peth yn wir am y we. Rydyn ni eisiau gwahodd pawb sy'n gallu siarad Cymraeg neu sy'n dysgu Cymraeg, hen ac ifanc, dynion a merched i gymryd rhan. Does dim angen profiad o flaen llaw. Mae digon o syniadau a chymorth i'w gael ar y wefan."Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cefnogi'r fenter ac yn annog ei haelodau i gymryd rhan, fe ddywedodd Cadeirydd y Gymdeithas Menna Machreth:"Mae'r fenter hon yn wirioneddol fendigedig. Mae hynod o bwysig bod y Gymraeg yn ffynnu ar y we, ac ym mhob rhan o'n bywydau pob dydd. Trwy wneud y pethau bychain, gallwn ni wneud newidiadau mawrion dros ein cymdeithas a'n hiaith."