Mewn unoliaeth gyda Pobl Palesteina, mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg nawr yn cefnogi'r ymgyrch Boicot, Dihatrad, Sancsiynau (BDS) yn ffurfiol.
Am dros 50 mlynedd mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn arwain chwyldro dros hawliau iaith trwy ymgyrchu dros arwyddion ffyrdd dwyieithog yng Nghymru, sianel deledu Gymraeg yn ogystal a amryw o Ddeddfau Iaith. Mae'r grŵp ymgyrchu Cymdeithas yr Iaith yn disgrifio ei hun fel "cymdeithas o bobl sy'n gweithredu'n ddi-drais dros y Gymraegiaith a chymunedau Cymru fel rhan o'r chwyldro rhyngwladol dros hawliau a rhyddid".
Yn 2005, cyhoeddodd cymdeithas sifil Palesteinaidd alwad am ymgyrch o boicotio, dihartiad a sancsiynau (BDS) yn erbyn Israel hyd nes ei fod yn cydymffurfio â chyfraith ryngwladol a hawliau Palesteinaidd.
Yn siarad ynglyn a pham fod y sefydliad yn cefnogi'r ymgyrch BDS, eglura Cen Llwyd o Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Rydym ni, fel sefydliad, wedi, ers ein sylfaen, gwelwyd y frwydr dros hawliau a rhyddid i'r iaith Gymraeg fel rhan o'r frwydr ryngwladol ehangach. Rydym yn sefyll mewn unoliaeth gyda pobl Palesteina, cenedl arall heb wladwriaeth. Mae pobl Palesteina yn dioddef camdriniaeth erchyll gan wladwriaeth Israel. Mewn ymateb i'r alwad hon y mae mudiad gwirioneddol fyd-eang wedi dod i'r amlwg yn erbyn gorthrwm Pobl Palesteina. Gan ein bod yn cefnogi hawliau a rhyddid i'r holl bobloedd, rydym fel mudiad wedi mabwysiadu BDS. "
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn boicotio:
- cwmnïau o Israel
- cwmnïau eraill sy’n cefnogi’r gwladychiad o diroedd Palesteina (gan
gynnwys ABP, HP, Veolia, Barclays, Caterpillar ac eraill)
Bydd unrhyw bwrcasu o hyn ymlaen ar gyfer swyddfeydd, cyfarfodydd, ralïau, gigs, digwyddiadau ac unrhyw weithred arall yn osgoi cynnyrch a gwasanaethau a ddarparwyd gan gwmnïau o dan y ddau gategori uchod.
Mae eisiau boicot oherwydd polisïau gwladwriaeth Israel sydd yn rhoi pobl Palesteinaidd dan ormes. Fe fydd y boicot yn parhau nes bod Israel yn rhoi terfyn ar wladychu ardaloedd Palesteinaidd, yn rhoi cydraddoldeb llawn i Arabiaid Israelaidd ac yn rhoi'r hawl i ffoaduriaid Palesteinaidd dychwelyd i’w hardaloedd.
Cynhelir y boicot fel rhan o'r ymgyrch i roi pwysau ar wladwriaeth Israel yn yr un modd ag ymgyrchoedd heddychlon byd-eang yn erbyn apartheid yn Ne Affrica yn y 1980au. Mae'r Gymdeithas yn credu mewn cydraddoldeb ar gyfer pawb ac yn gwrthod gwahaniaethu ar unrhyw sail gan gynnwys gwrth-Semitiaeth a hiliaeth. Mae hi hefyd yn condemnio'r defnydd o drais gan unrhyw berson neu gorff ar gyfer unrhyw bwrpas.