Mudiadau yn mynnu addysg cyfrwng Cymraeg i bawb cyn rali

 

Mae nifer o fudiadau wedi galw ar i Lywodraeth nesaf Cymru sicrhau addysg cyfrwng Cymraeg i bob plentyn mewn ymdrech i gyrraedd targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg cyn rali yng Nghaerdydd. 

Mae sawl grŵp, gan gynnwys yr undeb athrawon UCAC, Dathlu'r Gymraeg a Merched y Wawr, wedi cytuno alw ar yr holl bleidiau sy'n sefyll yn etholiadau'r Cynulliad drawsnewid y ffordd mae'r Gymraeg yn cael ei dysgu. Mae'u datganiad yn galw bod: dileu Cymraeg ail iaith ac yn ei le, creu un continwwm dysgu Cymraeg; peth addysg cyfrwng Cymraeg i bob disgybl ac ym mhob ysgol yng Nghymru; sefydlu'r Gymraeg yn bwnc craidd i bob disgybl; a chynnydd parhaus yn y ganran o wersi cyfrwng Cymraeg ym mhob sefydliad addysg. 

Caiff y datganiad ei arwyddo'n swyddogol yn y rali 'Miliwn o Siaradwyr Cymraeg' yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn lle bydd y gantores a'r digrifwr Caryl Parry Jones, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC Elaine Edwards a'r gantores Kizzy Crawford o Aberfan yn annerch y dorf. Mae'r digwyddiad yn rhan o daith bws Cymdeithas yr Iaith i godi proffil y Gymraeg cyn etholiadau'r Cynulliad. 

Dywedodd Jamie Bevan, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: 

"Rydyn ni'n falch iawn y bod nifer o fudiadau wedi cytuno i leisio barn dros addysg Gymraeg i bawb. Mae'n allweddol o ran sicrhau twf y Gymraeg a chyrraedd y targed miliwn o siaradwyr. Ddylai ein trefn addysg ddim amddifadu'r un plentyn o'r hawl i allu cyfathrebu a gweithio yn Gymraeg. Ar hyn o bryd, mae'r system yn methu ac yn creu dinasyddion eilradd, nad ydyn nhw'n cael yr un cyfleoedd gwaith a diwylliannol ag eraill, a hynny oherwydd hap a damwain daearyddol, eu sefyllfa ariannol, neu ddewis eu rhieni. Mae'n sefyllfa gwbl annheg. 

"Wrth i ni siarad â phobl ar draws y sbectrwm gwleidyddol, mae consensws ynghylch hyn. Yr her i Lywodraeth nesaf Cymru felly yw gweithredu yn ôl ewyllys y bobl i sicrhau bod y system yn cyflawni ar gyfer pob un plentyn, nid y rhai ffodus yn unig. Does dim lle bellach i fod dan unrhyw gamargraff am farn pobl Cymru, a does dim esgus i'r Llywodraeth nesaf - beth bynnag ei liw neu'i liwiau - ohirio gweithredu." 

Cynhelir y rali am 1pm, Dydd Sadwrn 13eg Chwefror ar risiau Llys y Goron yng nghanol Caerdydd.