Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn gwahodd pawb yng Nghymru i gyfrannu at ffilm dorfol arbennig am yr iaith fel rhan o ddathliadau hanner cant mlwyddiant y mudiad.Taflen hyrwyddo (PDF)Mae'r mudiad iaith yn galw ar Gymry Cymraeg i greu ffilmiau munud o hyd - gyda eu ffonau symudol neu gamerau - yn portreadu'r profiad o fod yn Gymro/Gymraes Cymraeg. Bydd y ffilmiau yn cael eu golygu at ei gilydd i greu ffilm dorfol o'r enw 'Munud i Ddathlu', a fydd yn cael ei lansio i gyd-fynd â phen-blwydd pumdeg darlith Tynged yr Iaith, Saunders Lewis ym Mis Chwefror y flwyddyn nesaf.Dywedodd Lleucu Meinir, cyfarwyddwraig y prosiect:"Byddai'n grêt petai pawb yn dod yn rhan o'r dathlu trwy wneud ffilm fer. Bydd croestoriad o ffilmiau gan groestoriad o bobl yn sicrhau darlun gret o'r Cymry Cymraeg ar droad pen-blwydd y Gymdeithas yn 50. Does dim angen profiad blaenorol o greu ffilmiau. Gellid defnyddio ffon symudol, camera fideo neu luniau camera llonydd gyda cherddoriaeth i greu ffilm munud o hyd. Gallan nhw fod yn ffilmiau dogfennol, celfyddydol, dramatig - mae'n gwbl agored."Y themâu ar gyfer y ffilm yw Cymru, y Gymraeg a Chymdeithas yr Iaith, ychwanegodd Lleucu Meinir:"Er enghraifft, gellid creu ffilm gelf yn dathlu tirwedd Cymru, drama fer am y profiad o fod yn siaradwr Cymraeg neu gyfweliadau gyda bandiau am chwarae mewn gigs Cymdeithas. Ar ôl golygu'r cyfan, bydd y ffilm dorfol orffenedig yn cael ei dangos ar draws Ewrop trwy 2012 a 2013."Bydd angen i'r gwneuthurwyr ffilm lwytho'r ffilmiau gorffenedig i youtube cyn diwedd 2011 gyda 'munudiddathlu' yn y geiriau allweddol a anfon e-bost at lleucu@cymdeithas.org i ddweud bod y ffilm wedi ei roi ar youtube. Bydd pumdeg o ffilmiau yn cael eu dewis i fod yn rhan o ffilm orffenedig 'Munud i Ddathlu' a fydd yn cael ei lansio yn Chwefror 2012.