Myfyrwyr yn galw am Is-Ganghellor Cymraeg

Prifysgol Aberystwyth yn Galw am Awgrymiadau am Swydd yr Is-Ganghellor

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi eu bod am ddefnyddio cwmni allanol i chwilio am ymgeiswyr ar gyfer swydd yr Is-Ganghellor – ac maent yn gofyn am adborth a syniadau.

Mewn e-bost at holl fyfyrwyr y Brifysgol heddiw, fe ddywedodd Syr Emyr Jones Parry, Canghellor y Brifysgol bod “Cyngor y Brifysgol wedi sefydlu Pwyllgor Dewis i arwain y drefn o benodi olynydd yr Athro McMahon, ac yn ddiweddar penodwyd Perrett Laver yn Asiantaeth Chwilio Gweithredol i gynorthwyo’r Pwyllgor Dewis i ganfod yr ymgeiswyr gorau posib.”

Ychwanegodd ei fod yn disgwyl i’r broses recriwtio cael ei chwblhau erbyn mis Rhagfyr a bod y cwmni yn “awyddus i ddeall mwy am y cyfleoedd a’r heriau sy’n ein hwynebu, a’r math o sgiliau y bydd eu hangen ar yr Is-Ganghellor newydd er mwyn mynd i’r afael â’r materion hyn.”

Mae Cell Pantycleyn Cymdeithas yr Iaith wedi dweud yn y gorffennol ei bod medru’r Gymraeg yn ystyriaeth holl-bwysig i’r swydd.

Dywedodd Elfed Wyn Jones, Cadeirydd Cell Pantycelyn Cymdeithas yr Iaith:
“Rydyn ni'n amheus fod y Brifysgol yn defnyddio cwmni recriwtio gan ei fod yn awgrymu y bydd y Brifysgol a'r cwmni yn chwilio ceisiau yn eang. Rydyn ni wedi dweud yn y gorffennol fod angen i Is-Ganghellor y Brifysgol allu defnyddio'r Gymraeg wrth weithio bob dydd, ac yn deall anghenion cymuned Gymraeg y brifysgol.
Er bod disgwyl bydd amod iaith i'r swydd fe wnaeth yr Is-ganghellor presennol addo dysgu'r Gymraeg cyn cael ei phenodi, nid yw hi wedi gwneud hynny.”

Mae myfyrwyr yn cwestiynu cost proses o'r fath hefyd.

Bydd y Gell, er hynny, yn annog pobl i ymateb gan ddweud fod y dylai'r Gymraeg fod yn sgil hanfodol i'r swydd. Ychwanegodd Elfed Wyn Jones:
“Yr unig ffordd i sicrhau fod yr is-ganghellor nesaf yn medru'r Gymraeg ydy mynnu fod y Gymraeg yn sgil hanfodol wrth hysbysebu'r swydd. Does dim rheswm pam na ddylai'r Gymraeg fod yn sgil hanfodol i'r swydd hwn, ac i bob swydd  mae’r Brifysgol yn ei hysbysebu yn y dyfodol.”

Ers mis Chwefror 2016, mae’r Athro John Grattan wedi gweithio fel Is-Ganghellor Dros-Dro, ac  nid yw’n rhugl yn y Gymraeg.
Gallwch ddanfon syniadau at AberystwythVC@perrettlaver.com