Addysg Gymraeg i bawb: angen “mynd â’r neges at Fae Caerdydd”

Cyn ein rali fawr dros addysg Gymraeg i bawb, mae Mabli Siriol, un o siaradwyr y rali, wedi datgan bod angen i unrhyw un sydd eisiau addysg Gymraeg i bawb “fynd â’r neges at Fae Caerdydd” er mwyn sicrhau bod cynlluniau’r Llywodraeth ar gyfer addysg Gymraeg yn cael eu cryfhau.

Bwriad rali ‘Sefyll gyda’r 80%: Addysg Gymraeg i Bawb’ ar ddydd Sadwrn, 15 Chwefror, yw galw ar y Senedd i gryfhau Bil y Gymraeg ac Addysg y Llywodraeth yn sylweddol, yn unol â nodau Cymdeithas yr Iaith. Ymysg y siaradwyr fydd Mabli Siriol, y bardd a’r llenor Hammad Rind a Kiera Marshall o Blaid Cymru.

Dywedodd Mabli Siriol:
“Mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn galw am Ddeddf Addysg Gymraeg fydd yn sicrhau bod pob disgybl - ble bynnag maen nhw'n byw, beth bynnag yw iaith y teulu - yn gadael yr ysgol yn medru'r Gymraeg ers bron i ddeng mlynedd.
“Ar y 15 Chwefror, mae’n rhaid i ni fynd â’n neges at fae Caerdydd. Mae Bil y Gymraeg ac Addysg y Llywodraeth, sy'n mynd trwy'r Senedd ar hyn o bryd, yn llawer rhy wan i roi’r Gymraeg i bob plentyn. Nid yw'n cynnwys targedau statudol ar dyfu addysg cyfrwng Cymraeg na hyfforddi'r gweithlu. Nid yw'n manteisio ar y cyfle i gael gwared ar Gymraeg ail iaith fel pwnc. Ac nid yw'n cynnwys nod hir dymor o droi pob ysgol yn un cyfrwng Cymraeg.
“Mae risg fawr felly bydd y bil fel y mae yn cael ei basio heb ei gryfhau, ac y bydd yn parhau â'r anghyfiawnder sylfaenol bod 80% o bobl ifanc Cymru'n cael eu hamddifadu o'r iaith y dylai bod ganddynt hawl iddi.”

Mewn arolwg barn diweddar gan YouGov, a gomisiynwyd gan Gymdeithas yr Iaith, roedd 59% o bobl a holwyd yn credu y dylai ysgolion anelu i addysgu pob disgybl i ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus, gyda 29% yn anghytuno a 12% yn ateb ‘ddim yn gwybod’. O hepgor y rhai atebodd ‘ddim yn gwybod’, roedd y ganran o blaid yn codi i 67%.

Ychwanegodd Mabli Siriol:
“Rydyn ni’n gwybod bod pobl Cymru gyda ni, dangosodd arolwg barn diweddar bod mwyafrif bobl Cymru yn cytuno y dylai pob person ifanc yng Nghymru adael yr ysgol yn medru'r Gymraeg.

“Yr unig ffordd i sicrhau hynny, i wrthdroi dirywiad yr iaith a rhoi'r un cyfle i bob plentyn - yw deddf sy’n rhoi addysg cyfrwng Cymraeg i bawb. Galwn ar bawb sy’n rhannu’r nod i ymuno â ni ar y 15fed o Chwefror.”