Parti lansio EP Anweledig

Anweledig Bydd gig mwyaf calendr y sin roc Gymraeg yn dod a digwyddiadau’r Eisteddfod i ben eleni wrth i fand mwyf poblogaidd Cymru ryddhau eu EP newydd ar nos Sadwrn olaf Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd. Bydd Anweledig yn cynnal Parti Lansio eu CD diweddaraf, Byw, yng Nghlwb Pont Ebwy, sef prif ganolfan gigs Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn y ‘Steddfod!

Bydd nifer o gefnogwyr Anweledig yn gyfarwydd â rhai o’r caneuon sydd yn ymddangos ar yr EP, wedi eu clywed mewn gigs yn arwain i fyny at yr wyl, ond yr Eisteddfod fydd y cyfle cyntaf i bobl allu prynu’r CD newydd. Bydd y Parti yn ffordd addas iawn o gloi wythnos brysur o gigs y Gymdeithas yng Nghlwb Pont Ebwy ac yn uchafbwyt a diweddglo gwych i holl ddigwyddiadau yr Eisteddfod.Clwb Pont Ebwy fydd ‘Y’ lle i fod i ddilynwyr cerddoriaeth Gymraeg yn ystod wythnos yr Eisteddfod gyda sesiynnau Abri yn cymryd lle yn y bar ‘lounge’ trwy gydol y prynhawniau yn cael eu dilyn gan gyfres o gigs di-guro yn ystod y nosweithiau. Mae’r Clwb yn lleoliad perffaith ar gyfer cynnal gigs i’r Eisteddfod gan ei fod yn enghraifft dda o ddiwylliant ardal ddiwydiannol Casnewydd. Dywedodd Owain Schiavone, Swyddog Adloniant y Gymdeithas “Mae’r ganolfan yn fy atgoffa i o Pheonix Nights ond mewn ffordd hollol cool”.Mae’r ganolfan hefyd yn brolio bwyd da a diodydd rhad trwy gydol yr wythnos i blesio’r dyrfa, tra fod ‘set-up’ gwych i gadw’r bandiau’n hapus….a hyn i gyd o fewn 10 munud o gerdded o’r maes pebyll!!Mae nos Sadwrn olaf yr Eisteddfod bob amser ychydig bach yn arbennig ond bydd y parti yng Nghlwb Pont Ebwy eleni yn rywbeth i’w gofio am flynyddoedd i ddod. Mewn noson sy’n cael ei noddi gan label newydd Rasal bydd yr ymdeimlad o barti yn rhedeg trwy gydol y nos gyda enillwyr cystadleuaeth Brwydr y Bandiau sy’n cymryd lle ar y nos Fercher, yn agor y noson, a wedyn Winabego yn cael eu dilyn gan Nar - sydd hefyd yn dathlu rhyddhau deunydd newydd! Bydd nifer o gynigion arbennig i’r gynulleidfa yn ystod y noson gyda phecynnau CD’s yn cael eu rhoi i ffwrdd yn ogystal a amryw anhregion eraill!Y peth gorau am y parti arbennig hwn yw fod gwahoddiad i bawb ddod yno i ddathlu a mwynhau yr holl ddigwyddiad gyda’r bandiau. Felly dewch i ymuno â’r hwyl ac i chwarae eich rhan yn uchafbwynt wythnos Eisteddfod Casnewydd.Am ragor o wybodaeth yngly^n â gigs y Gymdeithas yn yr Eisteddfod neu unrhyw beth arall, ymwelwch â www.cymdeithas.com/gigscasnewydd, neu ffoniwch Swyddfa’r Gymdeithas: 01970 624 501. Gallwch hefyd gysylltu â Owain Schiavone (Swyddog Adloniant) ar owain@cymdeithas.com, neu 07813 050 145.