Mae'r frwydr dros ddiogelu tir teulu o Ynys Môn yn ficrocosm o’r frwydr dros gymunedau Cymraeg, dyna fydd neges rali yn erbyn datblygu atomfa niwclear newydd yn y sir heddiw.
Fe fydd Richard Jones, aelod o deulu Caerdegog a ffermwr lleol sy'n wynebu colli tir oherwydd yr atomfa newydd yn annerch protestwyr yn Llangefni yn rali “Nid yw Môn ar werth i Wylfa B” a drefnwyd gan PAWB (Pobl Atal Wylfa B) a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg, gyda chefnogaeth Greenpeace. Mae’r teulu lleol mewn brwydr fawr â’r datblygwr Horizon sydd eisiau adeiladu Wylfa B: gallai’r cwmni orfodi'r teulu i werthu'r tir iddyn nhw ar gyfer yr orsaf niwclear newydd.
Bwriad yr ymgyrchwyr yw dangos cefnogaeth i Richard Jones a'i deulu a chodi ymwybyddiaeth o beryglon yr orsaf niwclear i'r amgylchedd a'r iaith Gymraeg. Mae datblygwyr hefyd yn bwriadu codi 6,000 o dai ar yr ynys, ac mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn rhybuddio y gallai'r datblygiad fod yn “hoelen olaf yr iaith Gymraeg ar Ynys Môn”, gan y bydd yn hybu mewnlifiad.
Mae'r mudiad iaith hefyd wedi codi cwestiynau am annibyniaeth yr asesiad o effaith ieithyddol y cynlluniau - asesiad a ariennir gan y datblygwyr. Yn siarad cyn y rali, dywedodd Menna Machreth, llefarydd y Gymdeithas dros Wynedd a Môn:
“Mae hon yn frwydr ddewr gan deulu Caerdegog i gadw eu bywoliaeth a'u cartref rhag cwmni enfawr - gan wrthod rhoi caniatâd i Horizon archwilio tir y fferm. Bu'r fferm ym meddiant y teulu ers saith cenhedlaeth, a'r bwriad yw i Owain, mab y fferm i barhau â'r gwaith. Pe bai Horizon yn llwyddo i brynu 65 erw o dir y fferm, dyna fyddai diwedd Caerdegog fel uned yn cynnig bywoliaeth. Mae eu brwydr nhw yn rhan yn annatod o'r frwydr dros ddyfodol yr iaith ar lefel gymunedol yn y sir hon.
“Mae pawb yn dweud fod yr ynys gyfan o blaid niwclear, ond dyw hynny ddim yn dal dŵr. Wylfa B fydd hoelen olaf yr iaith Gymraeg ar Ynys Môn. Mae'r cyfrifiad nesaf yn mynd i ddangos dirywiad pellach yn y canran sy’n siarad Cymraeg yn yr ardal, a byddai mewnlifiad o 16,000 o bobl ar ben hynny yn andwyol i'r iaith a'i chymunedau ar yr ynys. Yr un hen hanes geir yma eto - Llywodraeth Prydain yn dweud gall cwmni preifat ddefnyddio'n adnoddau fel y mynnant. Pwy sy'n diogelu teulu Caerdegog? Ble mae eu hawliau nhw i oroesi? Ble mae'r gwleidyddion sy'n sefyll lan drostyn nhw?
“Mae yna opsiynau eraill sut i wneud egni, sef egni gwyrdd, opsiwn a allai olygu ffyniant economaidd i'r Ynys yn hytrach nag aros mewn tlodi fel ar ôl yr Wylfa presennol.”
Gorfododd trychineb Fukushima i wledydd gefnu ar ynni niwclear: yn Ewrop, mae'r Almaen, yr Eidal, Gwlad Belg a'r Swistir wedi penderfynu peidio â chodi gorsafoedd niwclear newydd, a chau gorsafoedd presennol. Yn ôl y cynlluniau, fe fyddai Wylfa B yn cynhyrchu bron i bedair gwaith mwy o drydan na'r orsaf bresennol ac yn creu gwastraff dwy waith poethach a dwy waith mwy ymbelydrol, gyda’r gwastraff ar y safle am 160 o flynyddoedd.
Ar ran PAWB, ychwanegodd Dr.Carl Clowes:
“Bydd 2012 yn flwyddyn bwysig i'r ymgyrch i atal Wylfa B. Yn yr hinsawdd economaidd anodd sydd ohoni, fydd hi ddim yn hawdd i Horizon godi'r cyfalaf angenrheidiol ar gyfer prosiect mor enfawr. Bydd Horizon yn cynnal ymgynghoriad cymunedol ar eu cynlluniau cyn bo hir, ond mae'r rali yn gyfle i bobl ddangos eu hochr ac i ymuno â ni, Cymdeithas yr Iaith a Greenpeace yn y gwaith o ddangos pa mor beryglus, eithriadol o ddrud, a bygythiol i iaith, diwylliant, cymuned ac amgylchedd mae ynni niwclear.”