Troi'r sylw o ail gartrefi at ddeddf eiddo gyflawn

Mewn rali sydd i'w chynnal yng Nghaerfyrddin am 2pm Ddydd Sadwrn yma (14/1), bydd Cymdeithas yr Iaith yn symud pwyslais ymgyrch "Nid yw Cymru ar Werth" o ymgyrchu'n erbyn gormodedd o ail gartrefi ac AirBnBs at ymgyrchu dros Ddeddf Eiddo gyflawn.

Esbonia Cai Phillips, myfyriwr ifanc o Flaen-y-coed Sir Gâr, fydd yn galw am Ddeddf Eiddo yn y rali:
"Bydd y Gymdeithas yn parhau i bwyso ar Awdurdodau Lleol i ddefnyddio'r grymoedd newydd i reoli gormodedd ail gartrefi a llety gwyliau yn llawn, ond mae'r broblem dai yn ehangach yn Sir Gâr. Bydda i'n chwilio am rywle i fyw yn y sir yn y dyfodol agos ond does dim posib i'r mwyafrif o bobl ifanc y sir gystadlu gyda phobl gyfoethocach sy'n symud i'r sir i fyw yn barhaol tra bod marchnad agored am dai.
"Byddwn felly'n troi'r pwyslais at fynnu Deddf Eiddo gyflawn a fydd yn rheoli'r farchnad, yn blaenoriaethu pobl leol, ac yn caniatáu gosod amodau lleol ar berchnogaeth tai a thir. Fel arall caiff pobl ifanc eu gorfodi allan o'u cymunedau ac ni bydd dyfodol i gymunedau Cymraeg."

Deddf Eiddo fydd un o saith galwad gan y Gymdeithas ar Lywodraeth Cymru mewn ymateb i ffigurau diweddar Cyfrifiad. Dangosodd y ffigyrau ddirywiad pellach yng nghanran y siaradwyr Cymraeg, a'r cwymp mwyaf yn Sir Gaerfyrddin.

Yn dilyn rali wrth Neuadd y Sir am 2pm, disgwylir i rai cannoedd o gefnogwyr orymdeithio trwy'r dref i swyddfa Llywodraeth Cymru yn Rhes Picton.

Bydd Mari Lwyd, fel sydd yn draddodiadol yn ystod Calan Hen, yn arwain yr orymdaith drwy'r dref, ac yn amrywio ar ddefod draddodiadol wrth geisio mynediad at Swyddfa'r Llywodraeth i gyflwyno saith galwad Cymdeithas yr Iaith.