Rhaid i Wrecsam elwa o'r Steddfod

Wrth gyhoeddi manylion eu digwyddiadau gwleidyddol a gigs yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi apelio at Eisteddfodwyr i sicrhau bod tref Wrecsam yn elwa o'r ?yl.Bydd "Tren y Chwyldro" yr ymgyrchwyr iaith yn cychwyn bob dydd ar Faes yr Eisteddfod, wrth i'r mudiad iaith lansio ymgyrch bancio ar-lein gyda'r Aelod Seneddol lleol Susan Elan Jones, cynnal trafodaeth am ddyfodol cymunedau Cymraeg gydag AC Ll?r Huws Gruffydd, lansio eu cynlluniau ar gyfer 50 mlwyddiant y Gymdeithas, a chynnal rali S4C gyda Jill Evans ASE.Bydd y tren yn parhau i Orsaf Ganolog (Central Station) Wrecsam o nos Sul ymlaen, gyda pherfformiadau gan artistiaid gwleidyddol eu naws fydd yn parhau a negeseuon y Gymdeithas - artisitiaid fel Meic Stevens, Bryn Fôn a'r Band, René Griffiths, Lleuwen Steffan, Bob Delyn a Geraint Løvgreen a band lleol Mother of SixWrth annog pobl i fynd mewn i dref Wrecsam yn ystod yr Eisteddfod, meddai Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Rydym wedi lleoli ein gigs yng nghanol y dref fel bod modd i bobl leol gael cyfle gwell i fwynhau'r wythnos. Mae rhaid i ni, fel mudiad cenedlaethol, geisio gwneud mwy o ymdrech i gynnwys cymunedau lleol yn yr ?yl. Mae'r Eisteddfod yn gyfle arbennig i hyrwyddo'r iaith Gymraeg yn lleol. Wrth drefnu ein digwyddiadau eleni rydyn ni wedi bod yn falch o allu cydweithio gydag aelodau a grwpiau lleol."Hefyd, mi fyddwn ni'n cynnal ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ym Mis Hydref yng nghanol dref Wrecsam. Os ydyn ni o ddifrif am gefnogi'r iaith ar lefel cymunedol, mae rhaid i ni fel mudiadau Cymraeg wneud ymdrech ychwanegol yn y blynyddoedd i ddod."

Manylion gigs 'Tren y Chwyldro' yn yr Orsaf Ganolog (Central), Wrecsam: cymdeithas.org/steddfodLansio ymgyrch 'Bancio Arlein - Ble Mae'r Gymraeg?'2pm, Llun 01/08/11, Uned Cymdeithas yr Iaith, (405-406)Susan Elan Jones AS, Catrin Dafydd, Ceri PhillipsCyfarfod Lansio Siarter Tynged yr Iaith: Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy2pm, Mawrth 02/08/11, Pabell y Cymdeithasau 2Ll?r Huws Gruffydd AC, Nia Lloyd Deffro'r Ddraig, Gwenno Puw Ymgyrch Ysgol y ParcLansio Siarter Tynged yr Iaith bron i hanner canrif ar ól darlith Tynged yr Iaith, Saunders Lewis.G?yl Gyhoeddi Dathliadau 2012 - Dathliadau 50 mlwyddiant Cymdeithas Yr Iaith2pm, Mercher 03/08/11, Uned Cymdeithas yr Iaith, (405-406)Heather Jones ac eraillCyfle i aelodau a chefnogwyr dros yr hanner canrif ddiwethaf, a'r hanner canrif nesaf ymuno yn y dathliadau!Rali: Mynnwn S4C Newydd - dim mwy o'r hen gelwydd!2pm, Iau 04/08/11, Uned Cymdeithas yr IaithJill Evans ASE, Sian Howys, Ceri Cunnington, Meic Birstwistle, Susan Elan Jones ASRhaid i ni gyd-frwydro i ddiogelu arian ac annibyniaeth ar gyfer ein sianel Gymraeg. Dewch yn llu i Rali Fawr yr Eisteddfod a Rali Fawr yr haf!Dathliad Heddwch Rhyngwladol2pm, Gwener 05/08/11, Uned Cymdeithas yr IaithDafydd Iwan, Carlos Jesus Morales (Chile)Edrych tu hwnt i Gymru ac yn cydnabod ein rhan yn y chwyldro rhyngwladol am heddwch, rhyddid a hawliau mewn cân.digwyddiadau-steddfod-wrecsam-2011.jpg