
Mae ymgyrchwyr iaith wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog ar ôl cael cwynion am ymgynghoriad Llywodraeth Cymru - Y Gynhadledd Fawr - ar sefyllfa’r Gymraeg a gyhoeddwyd yn sgil canlyniadau’r Cyfrifiad.
Mewn llythyr at Carwyn Jones, dywed Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg bod y mudiad wedi cael cwynion gan aelodau am nifer o agweddau ar y gynhadledd, gan ddadlau “... dylai’r Gynhadledd Fawr fod yn agored i’r cyhoedd, a dylai fod wedi ei hysbysebu mewn da bryd - yn absenoldeb hynny, pryderwn y caiff yr hyn sydd i’w gynnal yn Aberystwyth ddechrau mis Gorffennaf ei gweld fel cynhadledd fach, yn hytrach nag un fawr.”
Mae’r llythyr yn rhestru’r cwynion canlynol:
-
Dyw’r cyfarfodydd lleol ddim yn agored i'r cyhoedd
-
Bod grŵp dethol o fynychwyr y cyfarfodydd, heb unrhyw ymgais i agor y cyfarfodydd i drawstoriad eang o bobol.
-
Dyw’r fforwm trafod ar wefan y Llywodraeth heb weithio am bythefnos cyntaf yr ymgynghoriad;
-
Diffyg pobol ifanc yn y cyfarfodydd
-
Dim gwahoddiad ysgrifenedig i'r cyfarfod mawr yn Aberystwyth
Ychwanegodd Robin Farrar, Cadeirydd y grŵp pwyso:
“Dan ni wedi croesawu’r ffaith bod y Llywodraeth yn cynnal sgwrs o’r fath, ond rydyn ni wedi pwysleisio ei bod yn hen bryd i’r Llywodraeth weithredu ar yr hyn sy’n amlwg eisoes. Wedi derbyn y cwynion hyn credwn ei bod yn bwysig i ni dynnu sylw’r Llywodraeth at y problemau. Wrth weithio ar ein Maniffesto Byw, gwnaethon ni ymdrech fawr i ddod â’r cyhoedd yn rhan o’r broses, gan gynnal cyfarfodydd ar ôl ein ralïau a fynychwyd gan dros fil o bobl, llythyru’n helaeth yn ogystal â chyfathrebu ar-lein. Bellach, mae gennym ni dros dri deg o argymhellion i’r Llywodraeth, wedi eu llywio a’u mireinio gan bobl ar lawr gwlad er mwyn i bobl gael byw yn Gymraeg.”
Mewn cyfarfod gydag aelodau’r Gymdeithas fis Chwefror, cytunodd Carwyn Jones na fyddai cynnal Cynhadledd Fawr yn achosi oedi wrth ystyried yr wyth bwynt dan sylw’r diwrnod hwnnw, gan gynnwys newidiadau i’r system gynllunio. Pwysleisiodd Mr Farrar bod methiant y Llywodraeth i gyhoeddi’r canllawiau newydd ynglŷn ag effaith y broses gynllunio ar y Gymraeg - sef Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 20 - hefyd yn achosi problem.
“Os nad yw’r Llywodraeth yn cyhoeddi’r canllawiau cynllunio, TAN 20, cyn y gynhadledd, mae’n debyg y bydd yn anodd iawn cynnal sgwrs adeiladol. Ers dros ddwy flynedd rydan wedi bod yn aros am y canllawiau cynllunio cadarnach newydd ond 'dyn nhw’n dal heb gael eu cyhoeddi! Wrth i ni aros mae tynged yr iaith yn ein cymunedau yn dioddef o ganlyniad i ddatblygiadau tai diangen. ”
Yn y llythyr, mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi awgrymu ffyrdd ymlaen er mwyn gwella’r gynhadledd gan gynnig yr opsiwn o ailgynnal y cyfarfodydd neu ymestyn y broses tan ddiwedd Gorffennaf. Mewn cyfarfod cyffredinol arbennig wythnos yn ôl, ystyriodd y mudiad dros gant o sylwadau i’w “Maniffesto Byw” sydd yn gwneud dros dri deg o argymhellion i gryfhau sefyllfa’r Gymraeg yn ystod y blynyddoedd i ddod.