Rhybuddio Cyngor rhag gweithredu'n anghyfreithlon - ad-drefnu addysg

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi anfon neges at Gyngor Sir Powys o flaen cyfarfod yfory (Dydd Mawrth 22/11) i'w rhybuddio nad ydynt yn gweithredu'n gyfreithlon o ran eu cynlluniau i gwtogi ar addysg uwchradd Gymraeg. Bydd y Cyngor llawn yfory'n trafod argymhelliad i gyfyngu addysg gyfrwng-Gymraeg chweched dosbarth i 3 safle yn unig trwy'r sir.Mewn neges at arweinydd y Cyngor, dywed llefarydd y Gymdeithas ar addysg, Ffred Ffransis:"Byddai terfynu'n syth addysg Gymraeg yn chweched dosbarth Ysgol Uwchradd Llanfyllin yn debygol o fod yn anghyfreithlon ar sawl cyfri. Yn gyntaf, ni ellid gwneud hyn heb ymgynghoriad statudol llawn gan y byddai cam o'r fath yn newid natur yr ysgol. Pe na bai addysg Gymraeg ar gael yn y chweched dosbarth, byddai disgyblion iau hefyd yn llawer llai tebygol o ddilyn cyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn ail, byddai argymhelliad y Cyngor yn terfynu addysg chweched dosbarth Cymraeg yn Llanfyllin er y byddai addysg chweched dosbarth Saesneg yn parhau. Dyna ragfarnu clir yn erbyn disgyblion Cymraeg eu hiaith."

Ychwanega Mr Ffransis:"Mae'n amlwg na bu ymchwil y Cyngor yn ddigon trwyadl. Ni bu ymchwil i'r posibiliad o ddefnyddio technoleg cyfoes i wireddu addysgu aml-safle, sef fod athro mewn un safle yn addysgu'n gyfamserol disgyblion mewn safle arall, ac ni bu trafodaethau traws-sirol gyda Chynghorau fel Gwynedd, Dinbych a Wrecsam yn unol a gofynion Llywodraeth Cymru. Ar yr holl seiliau hyn, byddech yn agored i her cyfreithiol petaech yn penderfynu mabwysiadu argymhelliad i derfynu'n syth addysg Gymraeg yn chweched dosbarth Ysgol Llanfyllin."Nid yw'n amlwg chwaith fod eich cynlluniau sirol yn gost-effeithlon. Yr ydym yn cwestiynu paham fod angen dyblygu darpariaeth yn Ysgol Bro Ddyfi. Paham na ddynodir Ysgol Bro Ddyfi yn syml fel Ysgol Uwchradd Ddwyieithog Categori 2a gyda 80% o'r addysg i bob disgybl yn Gymraeg? Byddai hyn yn llawer mwy cost-effeithlon na cheisio cynnal ffrydiau ar wahan, er y byddai'n rhaid cynnal ymgynghoriad statudol ynghylch hyn hefyd."