
Targedau'n is nag yn 2010, medd Cymdeithas
Mae mudiad iaith wedi dweud nad yw strategaeth iaith newydd Llywodraeth Cymru yn cynllunio ehangu a normaleiddio addysg cyfrwng Cymraeg yn ddigonol er mwyn cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
O edrych ar y strategaeth addysg cyfrwng Cymraeg a gyhoeddwyd yn 2010 gan y Llywodraeth, eu targed oedd sicrhau bod 30% o blant saith mlwydd oed mewn addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2020. Yn y strategaeth a gyhoeddwyd heddiw, mae'r targed wedi gostwng i 24% erbyn 2021, a nid oes bwriad cyrraedd 30% mewn addysg cyfrwng Cymraeg tan 2031.
Mae Cymdeithas yr Iaith yn amcangyfrif y byddai'r twf mewn addysg cyfrwng Cymraeg a gynlluniwyd yn y ddogfen yn arwain at gynyddu o 110,000 yn unig yn nifer y siaradwyr Cymraeg dros y 33 mlynedd nesaf, o gymharu â'r 400,000 a mwy o siaradwyr ychwanegol sydd eu hangen er mwyn cyrraedd miliwn erbyn canol y ganrif.
Ym mis Medi 2016, ymrwymodd y Gweinidog Alun Davies i "ddisodli [y cymwysterau Cymraeg ail iaith] ... yn 2021" gydag un cymhwyster Cymraeg i bob disgybl. Nid yw strategaeth iaith newydd y Llywodraeth yn ail-adrodd yr ymrwymiad.
Meddai Toni Schiavone, Cadeirydd grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith:
"Mae cynnwys strategaeth iaith y Llywodraeth ymhell o fod yn ddigonol er mwyn cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg. Yn wir, mae'r targedau yn is nag yn y strategaeth y cyhoeddon nhw saith mlynedd yn ôl. Mae'r gostyngiad yn y targedau hyn yn codi cwestiynau mawr am awydd y Llywodraeth i gyrraedd y targed. Mae'r strategaeth yn wan ac yn gwbl annigonol fel ag y mae. Mae'n syndod nad oes yr un sôn am ymrwymiad clir y Gweinidog a'r Prif Weinidog i ddileu Cymraeg ail iaith a sefydlu un cymhwyster Cymraeg yn ei le erbyn 2021."