Sut i gefnogi safiad Elfed dros ddatganoli darlledu

Mae sawl ffordd y gallwch chi ddangos eich cefnogaeth i safiad Elfed Wyn Jones, sy'n mynd heb fwyd am wythnos, fel rhan o'r ymgyrch dros ddatganoli darlledu. Mi fydd yn dechrau ei ympryd ar ddydd Mawrth wythnos nesa (20fed Chwefror) ac mi fydd yn para tan y dydd Mawrth dilynol.    

12:30yp, dydd Mawrth, 27ain Chwefror - dewch i'r Senedd yng Nghaerdydd er mwyn diolch i Elfed ar ddiwedd ei ympryd:

http://cymdeithas.cymru/digwyddiadau/diwedd-ympryd-elfed-dewch-i-ddweud-...

http://www.facebook.com/events/2016948348584296

3:30pm, dydd Llun, 19fed Chwefror - dewch i gefnogi Elfed tu allan i swyddfeydd y Cyngor, Cae Penarlâg, Dolgellau LL40 2YB, ar drothwy dechrau ei ympryd cyn iddo gwrdd â'i Aelodau Cynulliad lleol Dafydd Elis Thomas. 

http://cymdeithas.cymru/digwyddiadau/cefnogi-ympryd-elfed-dolgellau 

http://www.facebook.com/events/398343153924598/

Dydd Mawrth 20fed Chwefror tan ddydd Llun 26ain Chwefror - dewch i'n swyddfa yn Y Cambria, Rhodfa'r Môr, Aberystwyth lle bydd Elfed yn treulio rhan fwyaf ei gyfnod o ymprydio; bydd yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth. Ffoniwch 01970 624501 am ragor o wybodaeth. 

Heriwch y gwleidyddion

Gallwch chi anfon neges o gefnogaeth at eich gwleidyddion lleol drwy glicio yma: http://cymdeithas.cymru/elfed

Gwrthod Talu am Eich Ffi Drwydded

Gallwch chi ymuno â'r bobl sy'n gwrthod talu am eu trwyddedau teledu drwy fynd i: http://cymdeithas.cymru/datganolidarlledu   

Diolch yn fawr iawn i chi am eich cefnogaeth, bydd Elfed yn gwerthfawrogi unrhyw beth y gallwch chi ei wneud i'w gefnogi.