
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu'r newyddion bod Comisiynydd y Gymraeg wedi dechrau ymchwiliad statudol i'r honiad bod staff y cwmni yswiriant Swinton wedi cael eu gwahardd rhag siarad gyda chwsmeriaid yn Gymraeg.
Dyma'r tro cyntaf i'r Comisiynydd ddefnyddio ei phwerau newydd o dan Fesur y Gymraeg (2011) sy'n ymwneud â rhyddid unigolion i siarad Cymraeg ymysg ei gilydd.
Dywedodd Robin Farrar Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Rydyn ni'n falch iawn bod y Comisiynydd wedi dechrau ymchwiliad. Mae'n debyg bod problemau erchyll gyda'r diwydiant yswiriant, a'r sector breifat yn fwy cyffredinol, o ran atal staff rhag siarad Cymraeg gyda chwsmeriaid. Rwy'n gobeithio y bydd hi'n ei gwneud hi'n gwbl glir i gwmniau fod gan y Gymraeg statws swyddogol, a'u bod nhw'n torri'r gyfraith os ydyn nhw'n gwahardd unigolion rhag ei defnyddio hi ymysg ei gilydd. Un o'r grymoedd pwysicaf sydd gan Gomisiynydd y Gymraeg yw'r cyhoeddusrwydd a'r enw drwg y gallai hi ei roi i gwmniau sydd yn ymddwyn fel hynny."