Mae Cymdeithas yr Iaith wedi diolch i Mark Drakeford am ei wasanaeth fel Arweinydd Llafur Cymru yn dilyn ei ymddiswyddiad heddiw, gan osod tri nod ac ymrwymiad er lles yr iaith Gymraeg ar gyfer ei olynydd.
Dywedodd Tamsin Davies, Is-Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith:
“Dangosodd Mark Drakeford barch at yr iaith ac esiampl i eraill trwy ddysgu’r Gymraeg cyn dod yn Brif Weinidog. Gwnaeth yr iaith yn amcan penodol yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, hefyd.
“Yn ei Gytundeb Cydweithio uchelgeisiol gyda Phlaid Cymru, lluniodd ymrwymiadau a allai fod o fudd i’r Gymraeg a’n cymunedau o’u gweithredu, fel cyflwyno cynigion Deddf Addysg Gymraeg, ymrwymo i gyhoeddi papur gwyn ar yr hawl i dai digonol er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng tai, a chomisiynu adroddiad arbenigol ar ddyfodol darlledu yng Nghymru.”
Yn dilyn ei ymddiswyddiad, mae Cymdeithas yr Iaith wedi gosod tri nod ar gyfer olynydd i Mark Drakeford ym meysydd tai, addysg, a darlledu. Rhain yw cyflwyno Deddf Eiddo sydd yn cydnabod mai cartref yw eiddo yn hytrach nag ased masnachol yn nhymor y Senedd yma; gosod nod bod 100% o blant Cymru yn derbyn addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2050; a sefydlu Awdurdod Darlledu Cysgodol yn unol ag argymhellion Adroddiad Doel Jones ar ddyfodol darlledu.
Ychwanegodd Tamsin Davies:
“Mae’r tri nod yma yn gamau gwbl allweddol ar gyfer sicrhau parhad a thŵf yr iaith a’n cymunedau, a dylen nhw fod yn ymrwymiadau cadarn gan ymgeisyddion sy’n dymuno camu i’r adwy fel Prif Weinidog. Mae cyfle yn awr i adeiladu ar y gwaith a ddechreuodd Drakeford yn y meysydd hyn, a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol trwy eu gweithredu.”