
Mi fydd grŵp o ymgyrchwyr Cymdeithas yr Iaith yn ymweld ag Iwerddon wythnos nesaf (28ain Mawrth ymlaen) i rannu syniadau am sut i gryfhau ieithoedd lleiafrifol.
Pwrpas y daith fydd i ymweld gydag ymgyrchwyr iaith, mentrau iaith, prosiect Gaeltacht yn Co.Meath ynghyd â chyfarfod gyda Chomisiynydd yr Iaith Wyddeleg. Bydd y daith yn gyfle i ymgyrchwyr iaith Cymru i ddysgu am hanes, herion ac ymarferion da prosiectau yn Iwerddon, ynghyd â rhannu gwybodaeth gyda’r Gwyddelod am y sefyllfa ieithyddol bresennol yng Nghymru.
Meddai Sioned Haf, Swyddog Rhyngwladol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
“Mae grŵp ymgyrch Cymdeithas yr Iaith a’i aelodau wastad wedi dangos diddordeb mewn ymgyrchoedd iaith a hawliau rhyngwladol yn gyffredinol. Ers 2014, rydym wedi sefydlu adain swyddogol i edrych yn fanylach ar ddatblygiadau ymgyrchu ieithyddol yn y cyd-destun rhyngwladol. Mae gennym hanes hir o groesawu lluoedd o ymgyrchwyr iaith rhyngwladol i Gymru yn y gorffennol ynghyd ag ymweld â nifer o gymunedau ar draws Ewrop i ddysgu a deall mwy am yr heriau a’r llwyddiannau ymysg gwahanol gymunedau lle fodolir ieithoedd a’u lleiafrifwyd. Mae’r daith hon i Iwerddon yn rhan o’r cenhadu rhyngwladol rydym yn ei gynnal fel mudiad ymgyrchu.”
Ychwanegodd:
"Mae yna ddiddordeb gynyddol ymysg ymgyrchwyr yr iaith Gymraeg i ddysgu am sefyllfaoedd ieithyddol tu hwnt i Gymru. Mae esblygiad yr iaith Wyddeleg yn brofiad pwysig i ymgyrchwyr iaith i’w ddeall. Gobeithiwn allwn ddysgu, rhannu profiadau gyda’n cyfeillion yn Iwerddon, a dychwelyd â syniadau priodol i’w ymarfer yng Nghymru i gyd-fynd gyda’n hymgyrch ‘miliwn o siaradwyr Cymraeg’ presennol.”
Ymysg y grwpiau ac unigolion y bydd Cymdeithas yr Iaith yn ei chyfarfod bydd: Conradh na Gaeilge yn Nulyn ac yn Belfast, Misneach, Comisiynydd yr Iaith Wyddeleg (Rónán Ó Domhnail) a chymuned yn Gaeltacht Rath Chairn yn Co.Meath.