Toriadau i'r Gymraeg - Cyllideb Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi toriad o dros £1.5 miliwn i fuddsoddiad yn y Gymraeg.

Yn ôl y gyllideb ddrafft, bydd y gwariant ar yr iaith Gymraeg yn cwympo o £25,076,000 eleni i £24,376,000 yn 2014-15, gan gwympo ymhellach i  £23,511,000 yn 2015-16. Byddai hynny’n doriad o £700,000 y flwyddyn nesaf a £856,000 yn y flwyddyn ganlynol.

Ysgrifennwch at eich Aelodau Cynulliad lleol (h.y. eich Aelod Cynulliad etholaethol a'ch pedwar Aelod Cynulliad rhanbarthol) gan ddefnyddio'r ffurflen hon i bwyso arnynt i newid y drafft

CLICIWCH YMA I ANFON EBOST