‘Torri addewid’ drwy oedi rhag ail-agor Pantycelyn

Mae ymgyrchwyr wedi cyhuddo Prifysgol Aberystwyth o ‘dorri addewiddrwy oedi rhag ail-agor Neuadd Pantycelyn tan fis Medi 2020.   

Meddai Jeff Smith o Gymdeithas yr Iaith:  

Mae’r brifysgol yn peryglu ei henw da a’i statws drwy dorri ei haddewid i ail-agor y Neuadd erbyn 2019. Bydd hyn yn ergyd pellach i allu’r brifysgol i ddenu myfyrwyr. Mae’n hollbwysig i’r Brifysgol buddsoddi mewn Pantycelyn yn syth, gan ei hail-agor erbyn Medi 2019, er mwyn iddi gynnal diwylliant hyfyw Cymraeg unwaith eto. Mae digon o fyfyrwyr wedi colli cyfle i aros yn Neuadd Pantycelyn felly gorau po gyntaf bydd y gwaith yn cael ei chwblhau. Eisoes maent wedi cynnal ymgyrch marchnata cryf a theilwng am ailagor yn 2019, sydd bellach am fod yn gamarweiniol. Rydym felly yn mynnu i’r Brifysgol gyflymu‘r gwaith ac i ail-agor y neuadd i fyfyrwyr yn 2019.”  

“Buodd Neuadd Pantycelyn yn ganolbwynt i gymuned Cymraeg y Brifysgol, ac mae ei heffaith dros y blynyddoedd wedi bod yn un trawsnewidiol. Trwy gynnal cymuned Gymraeg ei hiaith yn gymdeithasol a thrwy weithgareddau diwylliannol Cymraeg yn yr adeilad, mae Neuadd Pantycelyn wedi denu myfyrwyr i Brifysgol Aberystwyth. Mae’r ffigyrau swyddogol hefyd yn dangos bod Pantycelyn yn annog mwy o fyfyrwyr i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, yn ogystal â denu myfyrwyr Cymraeg i’r Brifysgol. Mae wedi magu hyder siaradwyr Cymraeg, galluogi pobl o du allan i Gymru i ddysgu Cymraeg, cynnal cymuned Cymraeg hyfyw ac wedi galluogi mwy o fyfyrwyr i astudio drwy’r Gymraeg, a’u galluogi i ryngweithio.