Tren bach y sgwarnogod yn dychwelyd i Gasnewydd

bob_delyn.JPG Unwaith eto eleni, mae Cymdeithas ir Iaith wedi sicrhau fod gwledd o gerddoriaeth fyw Gymraeg ar gael bob noson o’r wythnos, gyda nosweithiau ar y gweill a fydd yn aros yn y cof am flynyddoedd i ddod. Ond bydd Nos Iau yr 8fed yng Nghlwb Gwyddelig Casnewydd yn fwy cofiadwy na’r arfer wrth i un o fandiau mwyaf poblogaidd Cymru dros y degawd a mwy diwethaf ddychwelyd i’r union fan lle wnaethant berfformio eu gig cyntaf union 16 mlynedd yn ôl.

Mewn noson wedi’i threfnu gan Gymdeithas yr Iaith yn ystod wythnos Eisteddfod Casnewydd 1988 y perfformiodd Bob Delyn a’r Ebillion ar lwyfan am y tro cyntaf erioed, ac ers hynny wrth gwrs maent wedi perfformio ganoedd o weithiau ledled Cymru a thu hwnt, ac mae’r gerddoriaeth ynghyd â’r awyrgylch unigryw a’r hwyl sydd bob amser i’w gael pan mae Twm Morus a’i griw ar y llwyfan yn dal mor boblogaidd ag erioed.Meddai Gorwel o’r band: ‘Rwy’n cofio’r noson yn dda, fel tase hi wedi digwydd ddoe, ac mi nath ryw ferched pynci’r olwg acshiwali codi a dawnsio i ni! Anodd credu ei bod 16 mlynedd yn ôl. Rydan ni fel band yn edrych ymlaen yn fawr i gael mynd yn ôl i’r Clwb Gwyddelig yng Nghasnewydd unwaith eto er nad oedd y rhan fwyf o’r band presennol efo ni ar y pryd, roedd rhai heb gael eu geni’r pryd hynny, a rhai eraill heb gael eu infentio eto. Mae’n lle gwych i berfformio ac roedd yr awyrgylch yno ym 1988 yn arbennig, fel y bydd unrhyw un oedd yno’n gwybod a dwi’n siwr y bydd yr un peth eto eleni.’Ychwanegodd: ‘Er mai hwn oedd lleoliad ein perfformiad llwyfan cyntaf, rhaid dweud nad hwn fydd yr ola’.’Yn rhyfeddol, nid oedd Bob Delyn a’r Ebillion i fod i berfformio y noson honno, ond wedi iddynt fod yn bysgio tu allan i faes yr Eisteddfod am wythnos, mi lwyddasant i berswadio’r Gymdeithas i roi gig iddyn nhw ac mae’r gweddill yn hanes!Heb os, bydd rhai fu yno yn ’88 yn dychwelyd i ail-fyw yr hwyl, ynghyd â chenhedlaeth newydd o Eisteddfodwyr a fydd yn dod i fwynhau gigiau Cymdeithas Yr Iaith yn y Clwb Gwyddelig am y tro cyntaf. Yn cefnogi Bob Delyn ar y Nos Iau bydd Chouchen ac Alun Tan Lan – un sydd yn ymddangos yn yr Eisteddfod am y tro cyntaf eleni.Yn ystod yr wythnos ceir cyfle i weld llawer mwy o hoelion wyth cerddoriaeth Gymraeg yn ymddangos ar lwyfan y Clwb Gwyddelig gyda Meic Stevens ar y nos Fawrth, Dom nos Fercher a Geraint Lovegreen yn cloi digwyddiadau’r wythnos yno ar y nos Wener. Yng nghanolfan arall gigs Cymdeithas yr Iaith – Clwb Pont Ebwy, bydd gigiau o’r nos Lun hyd y nos Sadwrn olaf pan fydd Anweledig yn dod a digwyddiadau’r wythnos i ben yn eu ffordd unigryw eu hunain.Mae’r Clwb Gwyddelig yng nghanol dinas Casnewydd ac yn agos at yr orsaf bysiau ble bydd bysiau’r Eisteddfod yn rhedeg yn gyson. Bydd yno hefyd fysiau ‘Tafod’ yn mynd yn ôl ac ymlaen o’r maes pebyll i’r Clwb ar nosweithau gig.Am ragor o wybodaeth ynglyn â gigs y Gymdeithas yn yr Eisteddfod neu unrhyw beth arall, ymwelwch â www.cymdeithas.com/gigscasnewydd, neu ffoniwch Swyddfa’r Gymdeithas: 01970 624 501. Gallwch hefyd gysylltu â Owain Schiavone (Swyddog Adloniant) ar owain@cymdeithas.com, neu 07813 050 145.